Ewch i’r prif gynnwys

Eryl Jones

Mae Eryl wedi bod yn ymwneud â'r diwydiant cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau ers bron i 30 mlynedd.

Mae'n ymgynghorydd rheoli strategol sydd ag arbenigedd mewn rheoli enw da sefydliadau cyhoeddus a phreifat proffil uchel. Mae'n wyneb cyfarwydd yn y cyfryngau yng Nghymru, fel llefarydd ac ar adeg o argyfwng

Bu'n reolwr Cysylltiadau Cyhoeddus RAC cyn cael ei benodi'n gyfarwyddwr y cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Rheilffyrdd Prydain yng Nghymru. Mae ganddo wybodaeth, dealltwriaeth a chysylltiadau helaeth o fewn y cyfryngau a'r maes gwleidyddol yng Nghymru.

Ers sefydlu Cysylltiadau Cyhoeddus Equinox ym 1996, mae Eryl wedi'i ddatblygu i fod yn un o'r cwmnïau cyfathrebu annibynnol sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru, gyda chleientiaid o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Mae Eryl hefyd yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf.