Ysgrifennu ar y We
Os yw eich gwefan yn mynd i fod yn effeithiol, mae’n rhaid i chi ysgrifennu copi sy’n plesio peiriannau chwilio a phobl fel ei gilydd. Mae’r cwrs undydd hwn yn dangos i chi sut i greu copi sydd wir yn diwallu eich anghenion ar-lein.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
- Datblygwyr cynnwys
- Unrhyw un sy’n ysgrifennu neu’n golygu copi ar gyfer gwefannau a thudalennau cyfryngau cymdeithasol
- Arbenigwyr SEO sydd eisiau datblygu sgiliau ysgrifennu.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Egwyddorion a thechnegau penodol i ysgrifennu llwyddiannus ar-lein.
- Sut i gynhyrchu cynnwys gwe sy’n apelio, yn effeithiol, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn briodol ar gyfer eich cynulleidfa darged
- Sut i optimeiddio copi ar gyfer peiriannau chwilio
- Dealltwriaeth o’r gwahaniaethau rhwng copi ar-lein ac all-lein.
Pynciau dan sylw
- Sut mae copi yn gweithio ar-lein
- Hanfodion ysgrifennu copi
- Technegau marchnata cynnwys
- Trefnu cynnwys yn fwy effeithiol
- Sut olwg ddylai fod ar eich tudalennau.
Manteision
- Dysgu sut i ysgrifennu copi sy’n plesio peiriannau chwilio (SEO)
- Dysgu sut i ysgrifennu copi y mae eich cynulleidfa darged yn ei ddarllen
- Dysgu sut i ysgrifennu copi ar-lein sy’n annog defnyddwyr i weithredu.