Arloesedd methodolegol ym maes gwyddoniaeth ymyrraeth Iechyd cyhoeddus: Addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd
Nod y cwrs undydd hwn, a arweinir gan yr Athro Graham Moore a Dr Rhiannon Evans, yw rhoi gwybodaeth ymarferol i gyfranogwyr am ddadleuon, theori ac arloesi methodolegol wrth addasu ymyriadau ar gyfer cyd-destunau newydd.
Bydd yr addysgu yn canolbwyntio ar ganllawiau methodolegol diweddar a ariannodd MRC-NIHR dan arweiniad DECIPHer ar addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, ymarferwyr a llunwyr polisi sydd â diddordeb mewn datblygu a gwerthuso ymyriadau cymhleth, yn benodol ar gyfer iechyd y cyhoedd. Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Pryd a pham y gallai fod yn fwy priodol addasu ymyriad presennol yn hytrach na datblygu un newydd
- Dadleuon, cysyniadau ac egwyddorion allweddol mewn perthynas ag addasu ymyriadau
- Sut i ddewis ymyriadau presennol ar gyfer cyd-destunau newydd ac ystyried ymyrraeth-cyd-destun
- Sut i gynllunio ac ymgymryd ag addasiadau
- Sut i benderfynu ar fath a maint y gwerthusiad (a monitro gweithrediad) sydd ei angen ar gyfer ymyriadau wedi'u haddasu.
Amserlen
09:00 - 09:15 | Cofrestru |
09:15 - 09:30 | Croeso Yr Athro Graham Moore / Dr Rhiannon Evans |
09:30 - 10:30 | Pam addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd? Cysyniadau, egwyddorion a dadleuon allweddol Yr Athro Graham Moore |
10:30 - 10:45 | Egwyl goffi |
10:45 - 11:45 | Pa ganllawiau a fframweithiau sydd ar gael i'w haddasu (a sut y cânt eu defnyddio)? Dr Lisa Pfadenhauer |
11:45 - 12:15 | Akskktudiaeth achos: Addasu'r rhaglen cryfhau teuluoedd o UDA i Gymru Dr Jeremy Segrott |
12:15 - 13:00 | Cinio |
13:00 - 13:15 | Cyflwyniad i Ganllawiau ADAPT Dr Rhiannon Evans |
13:15 - 13:45 | Dewis pa ymyriad i'w addasu Dr Rhiannon Evans |
13:45 - 14:15 | Tasg grŵp: Nodi ymyriad ac ystyriad cyd-destun ymyrraeth sy'n addas Dr Lauren Copeland / Dr Hayley Reed |
14:15 - 14:45 | Cynllunio addasiadau ac ymgymryd â nhw er mwyn sicrhau cyd-destun ymyrraeth sy'n addas Ar Athro Graham Moore |
14:45 - 15:00 | Egwyl goffi |
15:00 - 15:30 | Tasg grŵp: cynllunio addasiadau ac ymgymryd â nhw Dr Lauren Copeland / Dr Hayley Reed |
15:30 - 16:00 | Penderfynu ar fath a graddau'r ailwethusiad sydd ei angen mewn cyd-destun newydd Dr Rhiannon Evans |
16:00 - 16:15 | Crynodeb a chwestiynau Yr Athro Graham Moore / Dr Rhiannon Evans |
Darlleniadau allweddol
Addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd—canllawiau ADAPT
Gwybodaeth ddefnyddiol am y cwrs hwn
Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.
Bydd y cwrs yn cael ei addysgu wyneb yn wyneb, cyn belled â bod canllawiau COVID-19 yn caniatáu hynny.