Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP)®
Mae Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP®) yn cynnig ymagwedd sydd wedi’i strwythuro at reoli rhaglenni a fydd yn helpu sefydliadau i gyflawni newid trawsffurfiannol yn llwyddiannus.
Mae’r cwrs 5 diwrnod hwn yn cynnig dealltwriaeth gyflawn ac ymarferol o fframwaith MSP® ac mae’n eich paratoi ar gyfer arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd, sy’n cael eu sefyll yn rhan o’r cwrs.
Rydym hefyd yn cynnig fersiwn gyfunol newydd o’r cwrs hwn; astudiwch y cwrs e-ddysgu yn eich amser eich hun, yna ewch i weithdy wyneb yn wyneb 2 ddiwrnod i’ch paratoi ar gyfer yr arholiadau, yr un modd â’r cwrs traddodiadol. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni neu ewch i’n tudalennau gwe.
Sut mae hwn yn wahanol i’n cwrs hyfforddi cyfunol MSP®
- Addysgir y cwrs hwn yn gyfan gwbl wyneb yn wyneb, er bod angen astudio ychydig cyn y cwrs (tua 10 awr)
- Cwrs dwys yw MSP®
- a bydd angen gwneud rhywfaint o waith gyda’r nos yn ystod yr wythnos
- Cewch gyfle i dreulio amser gydag eraill yn eich maes, i rannu syniadau a phrofiadau dysgu.
Mynegwch eich diddordeb
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch fynegi eich diddordeb drwy gysylltu â ni.
Ar gyfer pwy mae hwn
- Ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur sydd eisiau cyfuno astudio e-ddysgu preifat gyda rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb
- Cyfarwyddwyr Prosiectau a Rhaglenni
- Rheolwyr Newid, Strategwyr Busnes ac Ymgynghorwyr
- Pobl sy’n rheoli nifer o brosiectau cysylltiedig.
- Arweinwyr rhaglenni
- Staff swyddfa rhaglen
- Staff gweithrediadau sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni newid
- Dylai fod gan bawb sy’n cymryd rhan rywfaint o brofiad o arwain neu reoli newid.
Pynciau dan sylw
- Trefnu a llywodraethu
- Gweledigaeth
- Ymgysylltu ac arweinyddiaeth rhanddeiliaid
- Adnabod rhaglenRheoli Manteision
- Glasbrint cynllunio a chyflenwi
- Cynllunio a rheoli
- Yr achos busnes
- Diffinio rhaglen
- Rheoli risg a materion
- Rheoli ansawdd a sicrwydd
- Rheoli’r gyfran
- Cyflawni gallu
- Cau rhaglen
- Gweithdy i baratoi ar gyfer arholiadau - Sylfaen ac Ymarferydd.
Manteision
Cwrs dwys wythnos o hyd sy’n eich galluogi i gywasgu eich holl astudiaethau ac arholiadau i bum diwrnod
Deall ac egluro rolau, dogfennau, egwyddorion, themâu llywodraethu a phrosesau MSP® a’r berthynas rhyngddynt
Defnyddio cysyniadau allweddol MSP® ar unrhyw raglen
Dylunio, cynllunio a rheoli rhaglenni gan ddefnyddio elfennau priodol MSP®
Sefyll yr arholiadau Sylfaen ac Ymarferydd yn hyderus
Deall sut mae’r fframwaith MSP® yn helpu rheoli prosiect yn effeithiol.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
09:00 - 17:00 yw oriau addysgu’r cwrs fel arfer.
Mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys 4 diwrnod o addysgu, gyda phrawf ar y diwrnod olaf.
Mae MSP® yn rhaglen ddwys, ac argymhellir eich bod yn gwneud 10 awr o waith cyn y cwrs yn ogystal ag astudio gyda’r hwyr yn ystod wythnos y cwrs.
Byddwn yn cadarnhau amseroedd, lleoliad a gwybodaeth arall yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.
Mae ffi’r cwrs yn cynnwys yr holl daflenni, deunyddiau, ciniawau a lluniaeth.
Meini prawf derbyn
Dylai fod gennych o leiaf 6 mis o brofiad rheoli rhaglen / newid.
Dylid cwblhau’r holl waith cyn y cwrs cyn dyddiad dechrau’r cwrs.
Manteision astudio gyda ni
- Mae ein cwsmeriaid a’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn gennym yn bwysig i ni
- Mae gennym Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid®, sydd â chefnogaeth Swyddfa’r Cabinet
- Mae lle i hyd at 12 o bobl ar y cyrsiau, sy’n galluogi pawb i gymryd rhan yn llawn yn y profiad dysgu
- Mae ein hyfforddwyr wedi derbyn adborth rhagorol gan y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gorffennol
- Mae ein tîm yn cynnig awyrgylch cyfeillgar, croesawgar a chefnogol er mwyn dysgu.
Rhwydwaith o Gynfyfyrwyr Rheoli Prosiectau
Mae pob un o’n cyrsiau ynghylch rheoli prosiectau’n cynnwys aelodaeth rad ac am ddim â Rhwydwaith Rheoli Prosiectau i Gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd i helpu’r rheini sy’n gweithio ym maes rheoli prosiectau a rhaglenni i rwydweithio, rhannu ymarfer gorau a chael y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd y manteision yn cynnwys mynediad â blaenoriaeth i ddigwyddiadau a gweithdai rheoli prosiectau, ymgyrchoedd hyrwyddo a gostyngiadau, a gwahoddiadau i ddigwyddiadau eraill yn y Brifysgol.
Cynhelir cyrsiau MSP® gan ein partneriaid Aspire Europe Ltd, Sefydliad Hyfforddiant Achrededig o AXELOS Ltd. Mae MSP® yn nod masnach cofrestredig i AXELOS Ltd.