Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Hyfforddi Adolygiad Systematig Cynhwysfawr JBI (modiwl 1 a 3 yn unig) (ar-lein)

Datblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr er mwyn rhoi’r dystiolaeth gryfaf posibl i lywio penderfyniadau a chanllawiau clinigol ynglŷn â gofal iechyd.

Cafodd ein Hadolygiad Systematig Cynhwysfawr (CSR) JBI ei ddylunio i baratoi ymchwilwyr a chlinigwyr i ddatblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr o dystiolaeth ansoddol a meintiol, ar sail dull JBI a defnyddio meddalwedd SUMARI JBI.

Oes ydych yn gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd neu os ydych yn astudio PhD drwy ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, mae gennych hawl i le wedi'i ariannu/ariannu'n rhannol ar y cwrs hwn. Cysylltwch â Deborah Edwards cyn archebu. Mae rhagor o fanylion isod.

Sylwch mai dyma’r opsiwn i fynychu modiwlau 1 a 3 yn unig. I fynychu pob sesiwn, ewch i brif dudalen y cwrs.

Ymrestru ar y cwrs hwn

Dyddiad dechrau Diwrnodau ac amseroedd
10 Mehefin 2024 Ar-lein. 10 Mehefin a 17-18 Mehefin 2024
Ffi
£450 (mae hyn yn cynnwys modiwlau 1 a 3 yn unig)

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae'r hyfforddiant hwn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnal adolygiadau systematig.

P'un a ydych yn fyfyriwr ymchwil gradd uwch, yn academydd, yn weithiwr iechyd cyhoeddus proffesiynol, neu'n glinigwr sydd â diddordeb mewn ymchwil, bydd y cwrs hyfforddiant hwn yn ddefnyddiol i'ch arwain tuag at gynnal adolygiad systematig da.

Staff Prifysgol Caerdydd - Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Rydych yn gymwys i gael lle wedi'i ariannu 100% ar y cwrs hwn. Cysylltwch â Deborah Edwards cyn archebu. Mae rhagor o fanylion isod.

yfyrwyr PhD sy'n astudio yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd 

Rydych yn gymwys i gael lle wedi'i ariannu'n rhannol. Y ffi i'w thalu yw £110. Cysylltwch â Deborah Edwards cyn archebu. Mae rhagor o fanylion isod.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Datblygu, cynnal a chyflwyno adolygiadau systematig cynhwysfawr er mwyn rhoi’r dystiolaeth gryfaf posibl i lywio penderfyniadau a chanllawiau clinigol ynglŷn â gofal iechyd.

Pynciau dan sylw

  • modiwl 1: cyflwyniad i ofal iechyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac adolygu tystiolaeth mewn ffordd systematig
  • modiwl 3: adolygu tystiolaeth sy’n deillio o ymchwil ansoddol, naratif a thestun mewn ffordd systematig.

Manteision

  • dysgu sut i ddatblygu cwestiwn ymchwil â ffocws
  • chwilio am lenyddiaeth berthnasol ac asesu a chyfuno tystiolaeth sy’n deillio o'r ymchwil
  • erbyn diwedd y rhaglen, bydd gan gyfranogwyr brotocol wedi’i gwblhau a mynediad at feddalwedd SUMARI JBI er mwyn cynnal eu hadolygiad

Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol

Modiwl 1 (Cyflwyniad i adolygiadau systematig): 10 Mehefin 2024 (09:30 i 16:30)

Modiwl 3 (Synthesis tystiolaeth feintiol): 17 – 18 Mehefin 2023 (09:30 i 17:30)

Bydd y modiwlau'n cael eu cynnal yn rhithiol a byddant yn cynnwys amrywiaeth o addysgu a gweithgareddau grŵp annibynnol. Bydd eich tiwtor wrth law i ofyn cwestiynau iddo/iddi os bydd angen. Bydd llawer o egwyliau wedi’u hamserlennu yn ystod y diwrnod hefyd.

Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs. Caiff y deunyddiau dysgu eu cyflwyno drwy storfa ffeiliau yn y cwmwl a byddwch yn gallu cael gafael arnynt yn ystod y cwrs.

Ni fydd angen unrhyw offer arnoch oni bai am gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd da a chamera, a’r gallu i fewngofnodi i Zoom.

Tystebau cyfranogwyr

Rydym yn falch iawn o fod wedi cael adborth ardderchog am y cwrs hwn gan gyfranogwyr:

Roedd yr hyfforddiant yn gynhwysfawr, ac roedd yr hwyluswyr yn barod (ac yn dal i fod yn barod) i helpu drwy gynnig arweiniad ar sut i gwblhau adolygiad. A minnau’n ymchwilydd ansoddol, roedd y modiwl ar ymchwil feintiol yn fuddiol ar gyfer dysgu sylfaenol (er ei fod ar lefel rhy uchel i mi!). Roedd cymysgedd da o ymarferion damcaniaethol ac ymarferion dysgu drwy brofiad. Mae llawer i’w wneud mewn wythnos – byddwch yn barod (bydd yn werth chweil)!

Lauren Cox – Uned Ymchwil Iechyd Meddwl Ieuenctid (JUICE), Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Iechyd Meddwl Manceinion Fwyaf, y DU

Drwy ddatblygu sgiliau syntheseiddio tystiolaeth a chael y cyfle i greu cysylltiadau ag arbenigwyr, rwyf wedi gallu cynnal adolygiad llawer mwy trylwyr a chadarn o’m hymchwil.  Byddwn yn argymell y cwrs yn fawr, ni waeth ble rydych arni yn eich gyrfa ymchwil.

Laura Ingham – myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd, y DU

Cwblheais Raglen Hyfforddiant JBI ar Adolygiadau Systematig Cynhwysfawr ym mis Mehefin 2021 i’m helpu i benderfynu a fyddai adolygiad systematig neu adolygiad cwmpasu’n fwy priodol ar gyfer fy PhD. Erbyn diwedd y cwrs, roeddwn wedi dod i wybod cymaint am y gwahanol fathau o adolygiadau llenyddol gan yr arbenigwyr yng Nghanolfan Cymru (y DU) ar gyfer Gofal sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth. Roedd tiwtoriaid y cwrs yn hynod o glir, yn addysgiadol ac yn hawdd mynd atynt. O ganlyniad, cefais brofiad da o’r cwrs. Ar ôl y cwrs, roedd gennyf hyder yn fy ngalluoedd fy hun, ond gwnaeth y tiwtoriaid barhau i roi cymorth i mi drwy ateb cwestiynau a’m cyfeirio at adnoddau defnyddiol wrth i mi symud drwy gamau’r broses o gynnal fy adolygiad systematig cyntaf. Byddwn yn argymell y rhaglen hon yn fawr i ymchwilwyr, ni waeth ble maent arni yn eu gyrfa.

Rachael Hewitt, myfyriwr PhD, Prifysgol Caerdydd, y DU

Mae Rhaglen Hyfforddiant JBI ar Adolygiadau Systematig Cynhwysfawr wedi fy helpu’n fawr i ddatblygu adolygiad cwmpasu systematig. Mae wedi datblygu sylfaen gadarn o wybodaeth a sgiliau sydd wedi fy rhoi ar y trywydd cywir, cefnogi dysgu hanfodol a’i gwneud yn bosibl i mi sicrhau ansawdd drwy gynnal ymchwiliadau sydd wedi’u hystyried yn fwy cadarn.

Claire Job, Uwch Ddarlithydd, Nyrsio Oedolion, Prifysgol Caerdydd, y DU

Cyrsiau byr i feddygon a staff gofal iechyd, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu sgiliau arwain.