Cyfathrebu Hyderus
Mae pobl sydd â sgiliau cyfathrebu ardderchog yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus yn eu gwaith.
Mae pa mor dda rydych chi’n cyfathrebu yn pennu sut rydych chi a’ch syniadau yn cael eu cyfleu ac a ydych yn cyflawni eich amcanion neu beidio. Bydd y cwrs undydd hwn yn archwilio tactegau a dulliau i wella eich gallu i gyfathrebu yn hyderus.
Georgina Jones fydd eich hyfforddwr.
Mynegwch eich diddordeb
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch fynegi eich diddordeb drwy gysylltu â ni.
Ar gyfer pwy mae hwn
Y rheini sydd angen cynyddu eu hyder mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwaith – digwyddiadau rhwydweithio, cyfarfodydd a chyfweliadau.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i feithrin perthynas a gwella cydberthnasau
- Beth yw nerfau, pam maent yno a sut i’w rheoli
- Sut y gall iaith y corff helpu neu lesteirio
- Presenoldeb a phŵer bod yn y foment
- Pŵer gwrando a chyfleu eich neges
- Brandio personol
- Cynnal cyflwr cadarnhaol.
Pynciau dan sylw
- Edrych ar gredoau
- Anadlu
- Pŵer y llais, gan gynnwys anadlu, taflu’r llais a goslef
- Technegau gwrando
- Ystum y corff
- Siarad amdanoch eich hun
- Sut rydym i gyd yn gweld y byd.
Manteision
- Cynyddu hygrededd personol a phroffesiynol
- Rhoi cynghorion i chi am sut i deimlo’n llawn awdurdod ac yn fwy hyderus yn y gwaith
- Eich ysgogi i ddatblygu eich gyrfa a pheidio â gadael i ofn eich atal
- Dangos i chi y gall pawb wella eu hyder
- Pecyn adnoddau y gallwch ei ddefnyddio ar ôl y cwrs i ddatblygu eich gyrfa
- Deall anghenion pobl eraill a gweithio tuag at gyflawni canlyniadau llwyddiannus.