Marchnata Digidol Uwch (cwrs pwrpasol)
Dysgu'r technegau marchnata digidol diweddaraf a datblygu strategaethau uwch ar gyfer marchnata busnesau B2B a B2C a brandiau.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhaglen bwrpasol ar gyfer cwmnïau a sefydliadau yn unig. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.
Bod yn gall gyda SEO, gwneud ysgrifennu copi ar-lein yn ddiddorol a chreu hysbysebion chwilio pwerus. Dysgu am ailfarchnata, yr agweddau allweddol ar fideo, cymwysiadau arbennig cyfryngau cymdeithasol a phŵer a maglau marchnata e-bost. Yna dewiswch y technegau sy'n gweithio orau i chi a dewch â nhw i gyd at ei gilydd mewn cynllun marchnata wedi'i drefnu'n dda ac ar sawl ffurf.
Rydym hefyd yn cynnig y cwrs Cyflwyniad i Farchnata Digidol
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi fynegi eich diddordeb. Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
- Busnesau a sefydliadau sydd eisiau uwchsgilio eu timau marchnata
- Staff marchnata sy'n ceisio ehangu a chryfhau eu sgiliau digidol
- Pobl o rolau eraill ond â phrofiad o ddefnyddio technegau marchnata digidol
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Technegau uwch a'r syniadau diweddaraf ar gyfer defnyddio gwahanol lwyfannau digidol
- Pa strategaethau sy'n gweithio orau ar gyfer nodau gwahanol a chynulleidfaoedd targed gwahanol
- Sut i gynhyrchu cynllun marchnata digidol aml-sianel effeithlon ac effeithiol.
Pynciau dan sylw
- Sesiwn loywi ynghylch hanfodion marchnata, gan gynnwys: Dadansoddi’r gystadleuaeth, defnyddio allweddeiriau, calendrau cynnwys, personas a llwybrau gwerthu
- Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
- Marchnata Cysylltiol
- Marchnata Dylanwadwyr
- Marchnata Peiriannau Chwilio
- Hysbysebion Arddangos gan gynnwys: Aildargedu, Platfformau Ochr y Galw, Hysbysebion Symudol a Hysbysebion Fideo
- Marchnata cynnwys gan gynnwys algorithmau Google
- Marchnata cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys deall ystyr a marchnata ymledol
- Marchnata ebost.
Manteision
- Busnesau a sefydliadau sydd eisiau uwchsgilio eu timau marchnata
- Staff marchnata sy'n ceisio ehangu a chryfhau eu sgiliau digidol
- Pobl o rolau eraill ond â phrofiad o ddefnyddio technegau marchnata digidol.
Sut i ddewis y cwrs iawn i chi
Atebwch y cwestiynau canlynol, a dylent roi canllaw i chi ar y cwrs gorau ar gyfer eich lefel sgiliau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.
- Ydych chi'n gweithio heb gynllun marchnata digidol manwl?
- Oes angen help arnoch chi i ddeall pwy yw eich cynulleidfaoedd targed?
- Ydych chi eisiau gwybod pa blatfformau digidol sydd orau i gyrraedd eich cynulleidfaoedd targed?
- Hoffech chi ddysgu sut i gyflwyno syniadau cynnwys deniadol?
- Ai dim ond hwb i'ch hyder sydd ei angen arnoch i ddechrau marchnata digidol?
Os gwnaethoch chi ateb ie i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, gall y cwrs hwn eich helpu chi.
- Hoffech chi wneud eich cynllun marchnata digidol yn fwy effeithiol?
- Hoffech chi ddysgu technegau marchnata digidol uwch, fel ail-dargedu?
- Ydych chi eisiau dysgu sut i gynhyrchu'r hysbysebion gorau ar gyfer platfformau digidol penodol?
- A allai deall ystyr cyfryngau cymdeithasol a chadw i fyny ag algorithmau Google eich helpu chi?
- Hoffech chi wybod sut i ddod o hyd i ddylanwadwyr a micro-ddylanwadwyr a'u recriwtio?
Os gwnaethoch chi ateb ie i unrhyw un o'r cwestiynau hyn, gall y cwrs hwn eich helpu.
Gwybodaeth gyffredinol
Mae pob cwrs DPP yn cael eu dosbarthu naill ai’n ‘Gategori A’ neu’n ‘Gategori B’ at ddibenion newid, canslo a throsglwyddo.
Mae hwn yn gwrs Categori B. Gweler ein telerau a’n hamodau i gael manylion pellach.