Cwrs ar-lein byw Ysgrifennu Copi Lefel Uwch
Mae'r cwrs ar-lein byw hwn, a arweinir gan diwtor, wedi'i addasu o'n cwrs ysgrifennu copi lefel uwch wyneb-yn-wyneb poblogaidd ac mae ar gyfer y rhai sydd â sgiliau marchnata ac ysgrifennu copi ac sydd am fynd â'u hysgrifennu i'r lefel nesaf.
Rydym wedi gweithio gyda’r tiwtor i greu gweithdy 2 ddiwrnod (dau hanner diwrnod) i’ch helpu i hogi eich sgiliau darllen copi cysyniadol a dysgu technegau newydd er mwyn cynyddu creadigrwydd, strwythuro eich copi a chael gwared ar rwystrau i ysgrifennu.
Rowan Dent fydd eich hyfforddwr.
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill
Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gwblhau'r ffurflen isod.
Diolch
Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.
Ar gyfer pwy mae hwn
Unrhyw un sydd â phrofiad sylweddol o farchnata a chyfathrebu sydd am barhau i ddysgu a gwella.
Beth fyddwch yn ei ddysgu
Yn ystod y ddau hanner diwrnod rydym am i chi:
- ddysgu technegau newydd i gynyddu creadigrwydd a chael gwared ar rwystrau i ysgrifennu
- canfod technegau a llwyfannau ar gyfer ymchwil cynulleidfa
- deall a defnyddio gwahanol strwythurau fel y pyramid gwrthdro ac AIDA
- dod yn feistr ar ysgrifennu brîff gwych
- dysgu'r dechneg 7 cam i ddal sylw darllenwyr
- hogi'ch sgiliau
- cael ysbrydoliaeth i ddal ati i ddysgu.
Pynciau dan sylw
Mae’r cwrs yn cynnwys yr un pynciau â’n cwrs wyneb-yn-wyneb gwreiddiol. Serch hynny, rydym wedi’i ailstrwythuro i fod yn addas i’r fformat ar-lein: Ar Ddiwrnod 1 byddwn yn canolbwyntio ar drafod pynciau, a gosod y sylfaen ar gyfer Diwrnod 2, lle byddwch chi'n treulio amser yn trafod ac yn gweithio ar eich copi eich hun.
Diwrnod 1: (hanner diwrnod):
- Cyflwyniad a dod i adnabod eraill
- Ymarferion creadigrwydd ar gyfer ysgrifenwyr copi
- Dod i adnabod eich cynulleidfa - technegau a llwyfannau ar gyfer ymchwil cynulleidfa
- Datblygu’r ‘bachyn’ - strwythurau ac ymagweddau at ddod o hyd i’r ogwydd gywir ar gyfer eich copi
- Sut i ysgrifennu brîff o bwys
- Gwaith cartref - ysgrifennu brîff ar gyfer prosiect sydd ar y gweill.
Diwrnod 2: (hanner diwrnod):
- Trafod y gwaith cartref a gweithgaredd cychwynnol
- Techneg 7 cam i ysgrifennu copi gwych
- Trafod a darnau gweithdy
- Datrys y broblem honno - bydd hyn yn ymdrin â naill ai technegau i wella is-benawdau neu olygu a phrawfddarllen
- Gosod eich nodau eich hun ar gyfer dysgu yn y dyfodol.
Manteision
Mae'r cwrs hwn yn hollol rithwir ac mae'n hynod ymarferol, felly byddwch chi'n elwa o sesiynau dan arweiniad tiwtor ac ymarferion rhyngweithiol ar gyfer pob pwnc. Anogir trafodaeth, a chewch gyfle i weithio a datblygu eich copi eich hun.
Caiff y cwrs ei rannu’n ddau (hanner) diwrnod, ac rydym wedi lleihau nifer y cyfranogwyr i fwyafrif o 12, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad dysgu gorau posib.
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn:
- magu hyder wrth ddatblygu a strwythuro copi cysyniadol
- datblygu eich creadigrwydd i gyrraedd y lefel nesaf
- llai o falu awyr a chael gwared ar rwystrau i ysgrifennu
- rhwydweithio a dysgu gan weithwyr proffesiynol eraill.
Sut i ddewis y cwrs iawn i chi
- Oes gennych chi brofiad sylweddol o farchnata a chyfathrebu ond mae angen i chi fod yn fwy creadigol a hyblyg?
- Hoffech chi feddwl ac ysgrifennu mewn ffordd fwy cysyniadol?
- Hoffech chi ddysgu sut i ysgrifennu – ac ymateb i – ofyniad o bwys?
- Allech chi ymelwa o ddysgu dulliau rhannu syniadau a datblygu cysyniadau?
- Ydych chi'n awyddus i ddeall mwy am sut all geiriau a delweddau gydweithio?
Os oedd eich ymateb yn gadarnhaol ar gyfer unrhyw un o'r cwestiynau hynny, gall y cwrs Sgiliau Ysgrifennu Copi Lefel Uwch eich helpu.
Addysgu a gwybodaeth ddefnyddiol
Mae disgwyl i’r gweithdy rhithwir redeg rhwng 09:30 a 13:00 ar y ddau ddiwrnod. Byddwn yn cadarnhau amseroedd, darparu deunyddiau dysgu, a gwybodaeth arall (fel manylion mewngofnodi) yn ystod y pythefnos cyn eich cwrs.
Sylwer fod y gweithdy rhithiol yn rhedeg dros ddau hanner diwrnod.
Ni fydd angen unrhyw offer arnoch oni bai am gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd da a chamera, a’r gallu i fewngofnodi i Zoom.