Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd Methodolegol ym maes Gwyddoniaeth Ymyrraeth Iechyd Cyhoeddus: Datblygu, Gwerthuso ac Addasu

Nod y cwrs hwn yw rhoi cyflwyniad i wahanol ddulliau a ddefnyddir ar gyfer datblygu, gwerthuso, addasu a gweithredu ymyriadau cymhleth.

Mae'n cynnwys cyd-gynhyrchu ac addasu ymyriadau, sut i ddatblygu 'model rhesymeg' ar gyfer ymyrraeth, a dyluniadau astudio ar gyfer treialu a gwerthuso effeithiolrwydd a phrosesau ymyrraeth.

Cyflwynir y cwrs gan arbenigwyr ym maes gwyddor ymyrraeth iechyd y cyhoedd o DECIPHer a'n sefydliadau cydweithredol gan gynnwys Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Sheffield ac eraill, i'w cadarnhau.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

Academyddion, ymarferwyr a llunwyr polisi.

Ni ragdybir y bydd gennych unrhyw wybodaeth flaenorol.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Egwyddorion allweddol sy’n sail i ddatblygu, gweithredu, gwerthuso ac addasu ymyriadau;

  • Safbwyntiau systemau cymhleth ar gyfer datblygu a gwerthuso ymyriadau
  • Dulliau ymchwil ac adnoddau ar gyfer datblygu ymyrraeth
  • Defnyddio modelau rhesymeg i lywio ymchwil ymyrraeth
  • Dulliau ac egwyddorion cydgynhyrchu
  • Addasu ymyriadau cymhleth ar gyfer cyd-destunau newydd
  • Dulliau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer gwerthuso dichonoldeb ymyrraeth, effeithiolrwydd, prosesau a chost-effeithiolrwydd.

Gall ymwelwyr rhyngwladol ofyn am lythyr gwahoddiad ffurfiol gan Brifysgol Caerdydd, er mwyn ategu eu ceisiadau am Fisa Astudio Tymor Byr, drwy gysylltu â Zoe MacDonald: macdonaldz@caerdydd.ac.uk

Lleoliad

sbarc|spark
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Cynigiwn borth i fusnesau fanteisio ar yr ystod eang o arbenigedd sydd ym Mhrifysgol Caerdydd.