Ewch i’r prif gynnwys

Offer cyfathrebu ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes (2 ddiwrnod)

Mae sgiliau cyfathrebu effeithiol yn rhan sylfaenol o’r hyn y mae gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn ei wneud wrth roi gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Bydd y cwrs hwn  yn hwyluso, y dysgu ynghylch a’r ddealltwriaeth o, gasgliad cynhwysfawr o ddulliau cyfathrebu, ac yn hwyluso o ran sut i’w cymhwyso’n ymarferol; hyn oll er mwyn rhoi cymorth gyda phob sgwrs.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno wyneb yn wyneb, a hynny er mwyn gallu cael gwell dealltwriaeth o, a myfyrio ar, sgiliau cyfathrebu wyneb yn wyneb.

Cynhelir y cwrs am 2 ddiwrnod a byddem yn argymell bod cynadleddwyr yn mynd i'r rhaglen lawn, ond mae'n bosibl mynd i un diwrnod yn unig. Y ffi am bob diwrnod unigol yw £175.

Diwrnod 1 yn unig

Diwrnod 2 yn unig

Fiona Rawlinson fydd eich hyfforddwr.

Nid oes unrhyw ddyddiadau ar y gweill

Ar hyn o bryd, nid oes dyddiadau ar gael cyn bo hir ar gyfer y cwrs hwn, ond gallwch chi . Byddwn ni mewn cysylltiad pan fydd dyddiad newydd ar gyfer y cwrs wedi cael ei drefnu.

Aeth rhywbeth o'i le

Nid yw'ch ymholiad wedi'i gyflwyno. Cysylltwch â ni drwy ebostio training@caerdydd.ac.uk neu ffonio +44 (0)29 2087 5274.

Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich enw cyntaf.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfenw.
Mae'r maes hwn yn ofynnol. Nodwch eich cyfeiriad ebost.
A hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf am y cwrs hwn, yn ogystal â newyddion, digwyddiadau a chynigion CPD?

Hysbysiad am breifatrwydd a diogelu data

Bydd Prifysgol Caerdydd yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data. Drwy gyflwyno eich manylion, rydych yn caniatáu i’r Brifysgol brosesu eich data personol er mwyn anfon gwybodaeth atoch, yn unol â’r dewisiadau a nodwyd gennych uchod a rheoliadau diogelu data. Cewch newid eich meddwl ynglŷn â rhoi caniatâd ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r Tîm Datblygiad Proffesiynol.

Ewch i’n tudalennau gwybodaeth gyhoeddus i gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, eich hawliau, a sut i fynegi pryder ynghylch sut y caiff eich data bersonol ei brosesu.Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn uniongyrchol - inforequest@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd fynegi unrhyw bryder drwy gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Diolch

Rydych wedi llwyddo i gofrestru eich diddordeb yn y cwrs hwn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd dyddiadau newydd ar gael.

Ar gyfer pwy mae hwn

Mae’n addas ar gyfer pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy’n gweithio ym maes gofal oedolion a phediatrig.  Ein nod yw cael dull integredig aml-gyfrwng, aml-broffesiwn; rydym wedi canfod y gall hyn wella gwaith tîm a dealltwriaeth rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws gwahanol dimau, gan gadw'r claf yn ganolog o ran gwneud penderfyniadau ynghylch triniaeth a rheoli.

Mae diwrnod 2 y cwrs hwn yn addas ar gyfer patholegwyr hefyd.

Cynigir gostyngiad i fyfyrwyr (ffi cwrs 2 ddiwrnod: £210, ffi fesul diwrnod: £125); cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Beth fyddwch yn ei ddysgu

Bydd y cwrs wyneb yn wyneb, 2 ddiwrnod o hyd hwn yn hwyluso, y dysgu ynghylch a’r ddealltwriaeth o, gasgliad cynhwysfawr o ddulliau cyfathrebu, ac yn hwyluso o ran sut i’w cymhwyso’n ymarferol; hyn oll er mwyn rhoi cymorth gyda phob sgwrs.

Mae 'pecyn cymorth 6 phwynt Caerdydd' – casgliad o ddulliau effeithiol o ran sgiliau cyfathrebu, yn ganolog i'r addysgu ac yn rhoi cyfle i weld allbwn ysgolheigaidd adnabyddadwy ac academaidd o'r cyrsiau.  Mae defnyddio pecyn cymorth 6 phwynt Caerdydd fel sail ar gyfer addysgu yn ein galluogi i ddangos y dulliau ym mhob un o'r gwahanol fathau o ymgynghori a allai ddigwydd mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes.

Pynciau dan sylw

Yn Ystod Diwrnod 1 byddwn yn ymdrin â:

  • technegau cyfathrebu sylfaenol a defnyddio pecyn cymorth 6 phwynt Caerdydd
  • rhannu newyddion drwg.

Yn Ystod Diwrnod 2 byddwn yn ymdrin â:

  • rheoli ansicrwydd
  • rheoli'r ymateb emosiynol i salwch sy'n cyfyngu ar fywyd h.y. dicter, gwadu a chydgynllwynio
  • dechrau sgyrsiau sensitif am gynlluniau ar gyfer gofal yn y dyfodol, a marwolaeth

Sut fyddwch chi’n dysgu?

Byddwn yn defnyddio cyfuniad o: sesiwn grŵp mawr, arddangosiad rhyngweithiol, a gwaith mewn grwpiau bychain er mwyn ymarfer a myfyrio ar sgiliau. Bydd yr holl waith grŵp yn cael ei hwyluso mewn modd sensitif gan hwyluswyr profiadol. Byddwn yn gofyn i chi fyfyrio ar y pryd, ar yr effaith y bydd y sesiynau'n ei chael ar eich arfer o ddydd i ddydd, a thrwy holiadur 6 wythnos ar ôl yr addysgu.

Manteision

Bydd y sawl sydd ar y cwrs yn elwa o wybodaeth a hyder cynyddol wrth ofalu am gleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol. Bydd adfyfyrio ar strategaethau sgiliau cyfathrebu a fframweithiau moesegol sy'n sail i arfer, yn gwella perfformiad, a bydd y sesiwn ar wella elfen o roi gofal lliniarol o fewn y tîm neu'r lleoliad yn fuddiol i'r gwasanaethau clinigol.

Mae'r cwrs DPP byr ar lefel meistr poblogaidd hwn yn dychwelyd ar gyfer 2023.