Rhwydwaith Aelodaeth Rheoli Prosiectau i Gynfyfyrwyr
Cyfle unigryw i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn eich maes a rhannu arferion da.
Nod ein Rhwydwaith Aelodaeth Rheoli Prosiectau i Gynfyfyrwyr yw annog cyfranogwyr o'r gorffennol i gynnal cysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd a'i gilydd.
Mae’n cynnig cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol rannu profiadau a syniadau ag eraill sy'n gweithio ym maes rheoli prosiectau.
Unwaith i chi ddod i unrhyw un o'n cyrsiau rheoli prosiect, byddwch yn gymwys yn awtomatig i fod yn aelod o'n Rhwydwaith Aelodaeth Rheoli Prosiectau i Gynfyfyrwyr a byddwch yn dechrau elwa o ystod o wasanaethau sydd wedi'u teilwra ar eich cyfer chi.
Digwyddiadau a gweithdai i gynfyfyrwyr
Cewch wahoddiad i ddigwyddiad blynyddol â siaradwyr blaenllaw, a fydd yn cynnig y cyfle i chi ddatblygu ymhellach, rhwydweithio, a dysgu oddi wrth eraill yn y maes. Tarwch olwg ar ein cyfrif Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Gweithdy sydd ar y gweill
Mae ein digwyddiad nesaf i gynfyfyrwyr ar 5 Mawrth 2019, 08:00-10:30. Y pwnc yw Rheoli Prosiectau mewn Cyfnod Cyfnewidiol. Bydd y prif siaradwr, Richard Rose, yn siarad am bynciau gan gynnwys cynllunio tymor byr, cyflawni prosiectau hyblyg a thechnegau rheoli’n hyblyg.
Cadwch le yn rhad ac am ddim (yn amodol ar argaeledd)
Gwahoddiadau i ddigwyddiadau eraill Prifysgol Caerdydd
Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddigwyddiadau Rheoli Prosiect sy'n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd a allai fod o ddiddordeb i chi a'ch sefydliad.
Cylchlythyrau rheoli prosiectau
Byddwn yn anfon cylchlythyrau rheolaidd atoch i rannu'r newyddion diweddaraf am gyfleoedd datblygu proffesiynol yn y dyfodol, a buddion i gynfyfyrwyr.
Ymgyrchoedd hyrwyddo a gostyngiadau
Mae gennym ymgyrchoedd hyrwyddo a chynigion arbennig rheolaidd yn benodol ar gyfer cynfyfyrwyr rheoli prosiect sy'n aelodau.
Cyrsiau Rheoli Prosiect
Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau rheoli prosiect, wedi'u dylunio ar gyfer pob lefel o arbenigedd.
Mae ein hystod o gyrsiau yn cynnig llwybr datblygu i’r rhai sy’n ymwneud â rheoli prosiectau a rhaglenni, o hanfodion rheoli prosiect i’r rhai sy’n newydd i’w rôl, i gymwysterau cydnabyddedig a thu hwnt.
Mae croeso i chi gysylltu â'n tîm cyfeillgar yn yr Uned DPP i gael gwybodaeth bellach am ein hystod o gyrsiau rheoli prosiect a rheoli cyffredinol.
Llyfryn
Mae ein llyfryn Cyrsiau Byr DPP ar gyfer Gwanwyn-Haf 2019 bellach ar gael i'w lawrlwytho yma (cysylltwch â ni i gael copi caled Cymraeg neu Saesneg yn rhad ac am ddim).
Please feel free to contact our friendly team at the CPD Unit for further information on our suite of project management and general management courses:
Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus
Angen gloywi eich sgiliau rheoli prosiect? Porwch drwy ein hystod trawiadol o gyrsiau hyfforddiant, gan gynnwys rhaglenni PRINCE2 a MSP.