Ewch i’r prif gynnwys

Rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid

Mae gofal cwsmeriaid yn ran hanfodol o’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu ac rydym yn falch ein bod yn meddu ar y safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid®. Mae ein safonau ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid yn nodi'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni.

Rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy'n gyfeillgar, yn cynorthwyo ac yn ymateb i'ch anghenion gan wneud popeth sy'n rhesymol bosibl i sicrhau dibynadwyedd ein gwasanaethau.

Gallwch ddisgwyl i’n staff fod yn gwrtais, yn barchus ac yn ystyrlon bob amser, ac i ymateb i’ch ymholiadau yn brydlon ac yn effeithlon.

Gallwch ein helpu i gyflawni hyn drwy drin ein staff a’ch cyd-gwsmeriaid gyda pharch a chwrteisi.

  • Dosbarthiadau bach mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas
  • Mae 90% o’n cwsmeriaid yn ein canmol yn dda neu’n ardderchog
  • Mae gennym profiad helaeth gyda busnesau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Rydym yn addo:

Rhoi gwybodaeth gywir o’r adeg gyntaf yr ydych yn cysylltu â ni

  • Pob tri mis, rydym yn adolygu gwybodaeth a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn gywir ac yn gyfoes.

Bod yn ymatebol, yn ddibynadwy ac yn effeithlon

  • Rydym yn cydnabod pob ymholiad a chwyn o fewn hyd at 3 diwrnod gwaith (os rhoddwyd manylion cyswllt). Y ffordd orau o gysylltu â ni yw drwy ebost train@caerdydd.ac.uk. Gallwch hefyd ein ffonio - 029 2087 5274.

Gwrando a gweithio gyda chi

  • Rydym yn gwahodd pawb sy’n mynd ar gyrsiau i werthuso ein gwasanaeth a byddwn yn cymryd camau ar sail awgrymiadau ar gyfer gwella
  • Rydym yn adolygu ein darpariaeth yn flynyddol er mwyn sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn briodol.

Bod yn agored ac yn onest

  • Byddwn yn rhoi gwybodaeth sy’n ymwneud â chadarnhau / canslo cyrsiau o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn y diwrnod dechrau disgwyliedig (oni bai y cytunwyd fel arall gyda’r cleient)
  • Rydym  yn rhoi gwybod am farn ein cwsmeriaid ynghylch ein gwasanaethau ac am y gwelliannau rydyn ni’n parhau i’w gwneud.

Cynnal gwasanaeth o ansawdd uchel

  • Rydym yn cyflawni 90% o ymatebion ‘da’ neu ‘ragorol’ o leiaf gan ein cwsmeriaid pan ofynnir iddynt asesu i ba raddau y gwnaethom drafod y pynciau a hysbysebwyd yn ystod y cwrs
  • Mae gan gyflwynwyr eich cwrs y lefel briodol o brofiad/arbenigedd.

Cynnig profiad dysgu croesawus

  • Rydym yn cyflawni 90% o ymatebion ‘da’ neu ‘ragorol’ o leiaf gan ein cwsmeriaid pan ofynnir iddynt asesu lefel y gofal a gawsant gennym ni
  • Rydym yn eich trin gyda chwrteisi, parch ac ystyriaeth.

Cynaliadwyedd a'r amgylchedd

  • Rydym yn ystyried ein harferion yn rheolaidd ac yn ymrwymo i wneud ein gwasanaethau yn gynaliadwy
  • Rydym yn cynnig te a choffi a dewisiadau feganaidd/amgen.

Adborth

  • Rydym yn ymrwymo i wella gwasanaeth cwsmeriaid yn barhaus
  • Rydym ni'n annog ac yn croesawu eich adborth oherwydd bydd hyn ein galluogi ni i wella.

Os nad ydych yn fodlon ar lefel y gwasanaeth a dderbyniwyd, rhowch wybod i ni. Byddwn yn ymateb yn gyflym, yn effeithlon ac yn effeithiol. Wrth wneud eich cwyn, rydyn yn rhoi’r cyfle i ni wella ein gwasanaethau.

Rydym wedi ymrwymo i wella ein gwasanaeth yn barhaus ac rydym yn derbyn eich adborth.

Os nad ydych yn fodlon gyda lefel y gwasanaeth a dderbyniwyd, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio ein gweithdrefn gwyno. Byddwn yn ymateb yn gyflym, yn effeithlon ac yn effeithiol. Wrth wneud eich cwyn, rydyn yn rhoi’r cyfle i ni wella ein gwasanaethau.

Oriau gweithio craidd yw 09:00-16:30 dydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau’r Banc a dyddiau cau’r brifysgol.

Customer Service Excellence

Safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid®

Rydym wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth sy’n groesawgar, yn ddibynadwy ac yn well na disgwyliadau cwsmeriaid.

Gallwch fod yn hyderus bydd eich profiad o weithio gyda ni yn un cadarnhaol a chyfeillgar.

Rydym yn falch ein bod yn meddu ar y safon Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid®.Ym mis Tachwedd 2022, dyfarnwyd gwobrau ‘Compliance Plus’ ychwanegol i ni am barhau i roi gofal cwsmeriaid o’r radd flaenaf. Mae hyn yn golygu bod gennym gyfanswm o 23 o wobrau o’r fath erbyn hyn.

Yn ogystal, cyflwynwyd gwobr Customer Service Excellence® 2021 i ni am ‘gynnal sefydliad sy'n canolbwyntio ar y cwsmer’, sy’n cydnabod y gwaith rydym wedi'i wneud i addasu ein gwasanaethau a chefnogi dysgu, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.