Ewch i’r prif gynnwys

Ymyriaduron wedi'u cyd-leoli i arsylwi ffenomena disgyrchiant cwantwm

Arsylwi ffenomena disgyrchiant cwantwm

Nid oes yr un theori ffisegol ar hyn o bryd sy’n disgrifio mecaneg cwantwm a disgyrchiant. Os yw disgyrchiant yn gwantwm-fecanyddol, rhagwelir y dylai ddangos arwyddion penodol y bydd modd eu harsyllu.  Yn benodol, pe bai gofod-amser ei hun yn cael ei gwanteiddio, dylai ddangos amrywiadau cwantwm y gellir eu harsyllu drwy fesur pellter yn fynych. Os yw disgyrchiant cwantwm yn dilyn yr egwyddor holograffig, dylai cydberthynas facrosgopig fod rhwng yr amrywiadau cwantwm hyn mewn cyfaint penodol o ofod-amser. Nod yr arbrawf hwn yw arsyllu amrywiadau cwantwm o’r fath drwy fesur gofod-amser mewn ffordd gydberthnasol â dau ymyriadur laser.

Trefn optegol yr arbrawf

Yn rhan o’r arbrawf, bydd dau ymyriadur Michelson o’r un fath, sy’n ailgylchu ynni, yn cael eu gosod ~40 cm ar wahân. Os bydd gofod-amser a, drwy estyniad, disgyrchiant yn ymddwyn yn y ffordd a ddisgrifir uchod, dylai fod arwydd arsylladwy penodol yn nhraws-sbectrwm y ddau offeryn. Felly, bydd y gwaith mesur a wneir yn rhan o’r arbrawf hwn yn ei gwneud yn bosibl i naill ai dod o hyd i arwydd o ddisgyrchiant cwantwm neu bennu terfyn uchaf cryfder amrywiadau cwantwm cydberthynol. Yn sgîl eu dyluniad, bydd gan bob ymyriadur  sensitifedd dadleoli o 10-19 m/rtHz ar hyd amrediad amledd o 1 i 250 MHz.

Offeryn amlbwrpas

Mae’r ymyriadur wedi’i gyd-leoli hefyd yn sensitif i

  • Mater tywyll
  • Tonnau disgyrchiant ar hyd amrediad MHz
Figure 1: Optical configuration of the co-located interferometer being built in Cardiff University. Two power-recycled Michelson interferometers with a 10 W input laser and squeezed vacuum injection. The green area shows vacuum enclosures.

Figure 2: Illustration of the vacuum enclosure to house the co-located interferometers.
Figure 2: Illustration of the vacuum enclosure to house the co-located interferometers.
Figure 3: Researchers and post-graduate students in the lab.
Figure 3: Researchers and post-graduate students in the lab.