Ewch i’r prif gynnwys

Torri'r côd

Delwedd 3D wedi’i sganio o Baill Taracacswm
Delwedd 3D wedi’i sganio o Baill Taracacswm - un o'r planhigion gwrthfacterol a nodwyd yn ein hastudiaeth.

Ers miloedd o flynyddoedd, rydym wedi defnyddio mêl i drin gyddfau tost, clwyfau a heintiau, oherwydd cyfansoddion yn y mêl sy'n lladd bacteria.

Mae'r priodweddau hyn yn ganlyniad amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ffytogemegau a roddir gan y planhigion.Mae cyfraniad y ffytogemegau hyn at weithgarwch gwrthfacterol cyffredinol math penodol o fêl yn dibynnu ar briodweddau'r planhigion y mae'r gwenyn yn ymweld â nhw. Er enghraifft, caiff mêl Manuka o Seland Newydd ei gynhyrchu pan fydd gwenyn yn porthi ar lwyni Manuka (Leptospermum scoparium), planhigyn sy'n cynhyrchu cyfansoddyn â phriodweddau gwrthfacterol cryf.

Mae'r ymgais i chwilio am ffytogemegau gwrthfacterol eraill wedi arwain at sgrinio mêl a gynhyrchir gan wenyn sydd wedi bwydo ar blanhigion o amrywiaeth o gynefinoedd yn y DU.

Ein cynllun oedd defnyddio gwenyn fel ymchwilwyr preifat a'u hanfon allan i gyfweld â phob planhigyn blodeuol yn y wlad. Yn ystod pob ymweliad, maent yn casglu deunyddiau fforensig ar ffurf neithdar sy'n cynnwys ffytogemegau - a gall rhywfaint ohono fod yn wrthfacterol - a phaill sy'n dal DNA y planhigyn.

Dr Jennifer Hawkins

Mêl sy'n iacháu

Gan ddefnyddio'r wybodaeth o'r prosiect hwn, mae'n bosibl creu mêl arbennig drwy arwain gwenyn i blanhigion gydag elfennau gwrthfacterol cryf.

Mae'r Athro Les Baillie a'i dîm bellach yn ceisio rhoi'r planhigion hyn mewn cynifer o leoedd â phosibl er mwyn i'r gwenyn fwydo arnynt.

Maent yn bwriadu defnyddio glaswellt ar do canolfan siopa Dewi Sant 2 yng Nghaerdydd, lle gallant osod cychod gwenyn, er mwyn gweld a fydd gwenyn yn cynhyrchu mêl â phriodweddau gwrthfacterol.  Maent hefyd wedi ymgysylltu â'r gymuned yn Grangetown yng Nghaerdydd ac maent yn defnyddio'r lawnt bowlio segur i greu cynefin newydd ar gyfer gwenyn yno hefyd.

Yr Eisteddfod

Gweithiodd yr Athro Arwyn Jones o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol â Julian Rees o Pollen8 Cymru i ehangu'r prosiect, a threfnodd arddangosfa gwyddoniaeth fawr yn y  Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2014 yn Llanelli.

Gwahoddwyd gwenynwyr Cymru i fynd â samplau 200g o fêl i'r Eisteddfod i helpu i ehangu faint o fêl sy'n cael ei astudio ledled Cymru.

Côd Bar Cymru

Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys prosiect Côd Bar Cymru, a arweinir gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac a oruchwylir gan Natasha de Vere, ac mae wedi cynhyrchu codau bar DNA ar gyfer 1,143 o blanhigion blodeuol a chonwydd yng Nghymru.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ddiddordeb yn yr ymchwil hon, cysylltwch â ni.

Pharmabees