Ewch i’r prif gynnwys
Julian Martin

Mr Julian Martin

Tiwtor cerddoriaeth

Trosolwyg

A minnau’n gyfansoddwr ac yn gerddor sy’n gweithio yng Nghymru, mae gen i fy mand mawr fy hun ac rydw i’n rheoli ystod o ensembles. Rwy’n ysgrifennu cerddoriaeth i’r teledu, y radio a ffilmiau hefyd.

Ar hyn o bryd, fi yw Cyfarwyddwr a Chyfansoddwr Cerddorol y sioe gomedi ‘The LL files’ ar Radio Wales, ac rydw i wedi cwblhau gwaith ar IGAM OGAM, cyfres animeiddiedig i blant sydd bellach i’w gweld ar S4C, ac a ryddheir ar Sianel 5 maes o law.

Rwy’n addysgu cyrsiau jazz rhan-amser i oedolion yn y Brifysgol a Chanolfan Celfyddydau The Gate. Rydw i wedi gweithio gyda llawer o gerddorion blaengar o Brydain, gan gynnwys Peter King, Jim Mullen ac Alan Barnes.