Ewch i’r prif gynnwys

Dr Katherine Griffiths

Darlithydd yn y Gyfraith

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Email
GriffithsK8@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 76978
Campuses
Adeilad y Gyfraith, Ystafell 3.13, Rhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX
cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Ymunais efo Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd fel Darlithydd cyfrwng Gymraeg yn 2017, ar ôl cyfnod o weithio fel tiwtor yn yr Ysgol. Rwyf yn dysgu ar dri modiwl israddedig, Cyfraith Teulu, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau a Chyfraith Trosedd ac rwyf yn diwtor Cymraeg ar gyfer Ecwiti ac Ymddiriedolaethau a Chyfraith Trosedd. Rydw i wedi bod yn arweinydd modiwl Ecwiti ac Ymddiriedolaethau ers Medi 2019.

Rydw i yn gymrawd o’r ‘Higher Education Academy’ ac yn Ddarlithydd Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Cyfraith teulu yw fy mhrif ddiddordeb ymchwil. Derbyniais fy noethuriaeth (PhD) yn 2017. Roedd y ddoethuriaeth yn cyflwyno ymchwil ddamcaniaethol oedd yn trafod gwahanol ddulliau o gydnabod perthnasau rhwng oedolion mewn cyfraith (gan gynnwys perthnasau rhwng cyplau a pherthnasau platonig). Roedd yr ymchwil hefyd yn astudiaeth gymharol o’r sefyllfa yng Nghymru a Lloegr efo’r sefyllfa yn Awstralia. Cafodd yr ymchwil ei noddi gan Gynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a chafodd ei oruchwylio gan Dr Leanne Smith a’r Athro Gillian Douglas. Cyn y PhD, fe wnes i astudio LLM mewn Llywodraethiant a Datganoli ym Mhrifysgol Caerdydd (rhagoriaeth) a’r LLB ym Mhrifysgol Bangor (dosbarth cyntaf efo anrhydedd).

Cyhoeddiad

2024

2019

2017

Articles

Book sections

Thesis

Addysgu

Rwyf yn dysgu ar dri modiwl isradd:

  • Cyfraith Teulu
  • Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
  • Cyfraith Trosedd

Rwyf yn diwtor cyfrwng Cymraeg ar gyfer Ecwiti ac Ymddiriedolaethau a Chyfraith Trosedd.