Ewch i’r prif gynnwys

Eluned Morgan

Senior Lecturer

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Trosolwyg

Mae Eluned Morgan yn Athro Nodedig er Anrhydedd yn Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd Caerdydd ac yn ddiweddar fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi. Meddai'r Athro David Boucher: "Mae dyrchafiad Eluned i Dŷ'r Arglwyddi yn gydnabyddiaeth addas o'i llwyddiant eithriadol fel ASE. Bydd y siambr uchaf yn elwa'n sylweddol o'i bresenoldeb. Edrychwn ymlaen at berthynas hir a ffrwythlon gyda hi yn rhinwedd ei swydd yn yr Ysgol. Mae'r Farwnes Morgan wedi siarad mewn nifer o seminarau ymchwil yn Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd Caerdydd gan gynnwys darlith ar 'Beth sydd ar ôl o'r chwith yn Ewrop?' ac mae wedi siarad â myfyrwyr israddedig Gwleidyddiaeth ar waith ASE.

Etholwyd Eluned Morgan fel ASE ieuengaf Senedd Ewrop yn 1994 a gwasanaethodd am dri thymor llawn cyn rhoi'r gorau iddi yn etholiad 2009. Daeth yn un o'r ASEau mwyaf profiadol yn Ewrop, gyda phrofiad helaeth mewn perthynas â sectorau polisi penodol - fel ynni - ac yn fwy cyffredinol o ran esblygiad sefydliadol senedd Ewrop dros gyfnod o 15 mlynedd dyngedfennol. Ms Morgan oedd llefarydd Llafur Ewrop ar y Diwydiant Ynni a Gwyddoniaeth ac fe ysgrifennodd safbwynt Senedd Ewrop ar y Papur Gwyrdd Ynni a'r Gyfarwyddeb Drydan. O ran Cymru, roedd Eluned yn rym allweddol yn y senedd yn y penderfyniadau a helpodd Cymru i gael £2.2 biliwn o gyllid Ewropeaidd ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd (cyllid Cydgyfeirio). Mae Eluned Morgan hefyd wedi bod yn ffigwr dylanwadol iawn o ran hanes gwleidyddiaeth Cymru. Felly, fe'i penodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i fod yn Aelod o Grŵp Cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol, gan sefydlu Rheolau Cynulliad Cymru. Roedd hi'n aelod allweddol o grŵp trawsbleidiol Yes For Wales oedd yn ymgyrchu dros Gynulliad Cymru.

Mae'r Farwnes Morgan bellach yn cael ei gyflogi gan SWALEC, cwmni sy'n awyddus iawn i edrych ar gyfleoedd i gydweithio'n agosach mewn arloesi ac ymchwil a datblygu yng Nghymru.

Addysgu