Ewch i’r prif gynnwys

Mrs Shaheda Khatun

Swyddog Prosiect Cydraddoldeb Hiliol

Trosolwyg

Ymunodd Shaheda â Phrifysgol Caerdydd yn 2018 a'r Ysgol Busnes yn 2022 fel Swyddog Prosiect Cydraddoldeb Hiliol cyntaf yr ysgol. 

Mae'n aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb Hil yr Ysgol Busnes, sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Emmanuel Ogbonna. Mae ei rôl bresennol yn cynnwys cefnogi'r pwyllgor i ddatblygu mentrau sy'n helpu i greu a hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol o fewn Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Llywodraeth Cymru, ac ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i ddod yn Brifysgol wrth-hiliol.

Bywgraffiad

Ar ôl graddio mewn Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth, aeth Shaheda ymlaen i astudio cwrs israddedig mewn Ymarfer Datblygu Cymunedol. Fel rhan o hyn, hwylusodd gynhadledd ynghylch gwella mynediad i addysg i gymunedau lleiafrifoedd ethnig. Daeth y gynhadledd â phobl ifanc, grwpiau cymunedol, athrawon lleol a phenaethiaid ysgolion ynghyd i gynllunio prosiectau sy'n mynd i'r afael â rhwystrau i gael mynediad i addysg bellach ac uwch.

Mae Shaheda hefyd wedi cwblhau'r rhaglen Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTTLS) ac mae ganddi brofiad o addysgu dysgwyr sy'n oedolion mewn lleoliad cymunedol. Mae gwaith Shaheda ym maes datblygu cymunedol hefyd wedi cynnwys datblygu prosiectau i wella cyfleoedd i gymunedau lleol ac ysgrifennu grantiau i sicrhau cyllid. Yn ei rôl bresennol mae'n cyfuno ei diddordebau mewn gwella profiadau myfyrwyr o addysg, gyda gweithio tuag at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ar gyfer cymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Mae Shaheda, yn ei rôl bresennol, yn aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb Hil yr Ysgol Busnes, sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Emmanuel Ogbonna. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi'r pwyllgor i ddatblygu mentrau sy'n helpu i greu a hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol yn Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Llywodraeth Cymru, ac ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i ddod yn Brifysgol wrth-hiliol. Mae hi hefyd yn gweithio i gefnogi'r ysgol i weithredu'r Siarter Hil yn y Gwaith drwy bartneriaeth yr ysgol â Busnes yn y Gymuned. 

Cyn ymuno â'r Ysgol Busnes, mae hi wedi gweithio ym maes Gwasanaethau Cymorth Academaidd a Myfyrwyr, ar ôl gweithio i Gymorth Addysg y Gofrestrfa ac i Achosion Myfyrwyr. Mae gan Shaheda ddiddordeb mewn Gofal Cymdeithasol i Blant hefyd. Mae hi wedi gweithio fel Swyddog Cymorth Ymchwil yn y Ganolfan Ymchwil a Datblygu mewn Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hi hefyd wedi gweithio am nifer o flynyddoedd yn Diogelu Plant i'r awdurdod lleol mewn amryw o rolau gweinyddol, cyn ymuno â'r brifysgol. 

Pwyllgorau ac adolygu

Fel Swyddog Prosiect Cydraddoldeb Hiliol, mae Shaheda yn rhan o'r canlynol:

  • Pwyllgor Cydraddoldeb Hiliol
  • Pwyllgor Pobl