Ewch i’r prif gynnwys
Jessica Raby

Miss Jessica Raby

Swyddog Cyfathrebu Digidol

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Email
RabyJ@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29225 11784
Campuses
Neuadd y Ddinas, Heol Gerddi'r Orsedd, Caerdydd, CF10 3ND
cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Mae cefndir Jessica mewn Marchnata a Chyfathrebu yn y diwydiannau creadigol. Mae'n gweithio fel Swyddog Cyfathrebu Digidol i Media Cymru.  

Cyn hynny, bu Jessica yn gweithio fel Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.  

Mae gan Jessica angerdd dros y celfyddydau gydag M.A mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Aberystwyth, lle arbenigodd mewn ymarfer rhyngddisgyblaethol a gweithio ar draws cyfryngau amrywiol mewn fideo, ffotograffiaeth, sain a gosodwaith. 

Astudiodd radd B.A mewn Cymraeg/Celfyddyd Gain (hefyd ym Mhrifysgol Aberystwyth) ac mae bellach yn dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Fel dysgwr Cymraeg brwdfrydig a siaradwr ail iaith, mae Jessica yn awyddus i hyrwyddo'r Gymraeg yn ei gwaith galwedigaethol.  

Siaradwch â hi am greu cynnwys, y cyfryngau cymdeithasol, gwneud ffilmiau, a phob peth digidol! 

Bywgraffiad

Mae Jessica yn Swyddog Cyfathrebu Digidol ar gyfer Media Cymru. Cyn hyn, bu'n gweithio mewn Marchnata a Chyfathrebu mewn canolfannau aml-gelfyddydol, gan gynnwys Chapter yng Nghaerdydd a Chanolfan Gelfyddydau'r Memo yn y Barri.  

Rhwng 2012-2018, symudodd o Dde Cymru i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth lle enillodd radd B.A yn y Gymraeg/Celfyddyd Gain ac M.A mewn Celfyddyd Gain. Yma, arbenigodd mewn ymarfer rhyngddisgyblaethol, gan weithio ar draws gwahanol gyfryngau mewn fideo, ffotograffiaeth, sain a gosodwaith.  

Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd Jessica mewn sawl rôl greadigol gan gynnwys: Cynorthwy-ydd Marchnata a Dylunio Digidol mewn siop dylunio mewnol a chelf, The Deco Shop, Machynlleth; Cynorthwy-ydd Amlgyfrwng ar gyfer cyhoeddi ar-lein, New Welsh Review, Aberystwyth; Swyddog Hyrwyddiadau a Digwyddiadau ar gyfer rhaglen preswylfa gelf, Stiwdio Maelor, Corris (Gogledd Cymru).  

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi ymgymryd â phreswylfeydd artist mewn gwahanol wledydd, gan ddefnyddio'r amser i archwilio ac ehangu ei harferion a'i galluoedd artistig. Ymhlith y rhain y mae: Preswylfeydd Gushul, Canada (2018); Preswylfa Trelex, Y Swistir (2017); Stiwdio Maelor, Cymru (2016); JOYA arte + ecologia, Sbaen (2015 a 2014).  

Yn ogystal â gweithio mewn fideo arbrofol, mae Jessica wedi mwynhau creu ffilmiau dogfennol fel cyfweliadau ac arddangosfeydd.  

Ochr yn ochr â'i hangerdd dros y celfyddydau a phob peth gweledol, mae ganddi ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg ac mae’n dathlu hyn yn ei gwaith galwedigaethol. Mae hi ar hyn o bryd yn dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. 

External profiles