
Lee Walters
Senior Producer
Trosolwg
Lee yw Uwch Gynhyrchydd/Rheolwr Cronfa Media Cymru. Mae Lee yn gyfrifol am reoli'r tîm Darparu Ymchwil a Datblygu, yn ogystal â chyflawni a goruchwylio prif gystadleuaeth ariannu eilaidd Media Cymru, sef yr Innovation Pipeline. Bydd hyn yn cynnig cyfleoedd i'r sector gael gafael ar gyllid i ddatblygu syniadau arloesol sy'n adeiladu ar gryfderau'r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Bywgraffiad
Ac yntau wedi graddio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae Lee yn weithiwr proffesiynol yn y Diwydiannau Creadigol gyda gyrfa 15 mlynedd amrywiol yn y BBC, a arweiniodd at rôl gyfathrebu fel Uwch Reolwr Newid yn darparu pencadlys newydd BBC Cymru yng nghanol Caerdydd. Wedi ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2020, bu Lee yn Rheolwr Rhaglenni gyda Clwstwr, rhaglen uchelgeisiol bum mlynedd oedd yn cefnogi cwmnïau a gweithwyr llawrydd i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sgrîn.