Ewch i’r prif gynnwys
Nathan Roberts

Dr Nathan Roberts

Rheolwr Rhaglenni Cymrodoriaethau Addysg

Trosolwyg

Cyfrifoldebau’r rôl

Rwy'n rheoli Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd: y gyfres o gyrsiau sydd wedi'u hachredu gan AdvanceHE sy'n galluogi cydweithwyr i ddatblygu a chael cydnabyddiaeth gwerth chweil am eu haddysgu. Mae ein tîm arbenigol yn darparu ystod eang o raglenni hyblyg a hygyrch i gannoedd o gydweithwyr bob blwyddyn ac yn cael eu gyrru i sicrhau bod staff newydd a phrofiadol yn meddu ar yr offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu fel addysgwyr. Yn ogystal â gofalu am weithrediad cyffredinol y Rhaglenni Cymrodoriaeth, rwy'n mentora llawer o gydweithwyr ac yn cyfrannu at gyflwyno ein holl ddarpariaeth.

Gwaith allweddol/Arbenigeddau

  • Datblygu addysg
  • Arweinydd ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Addysgu AdvanceHE (NTF a CATE)
  • Arbenigedd thematig ar draws cynllunio cwricwlwm, addysg ddigidol a chymorth i fyfyrwyr.

Bywgraffiad

Dechreuais fy ngyrfa gyda PhD mewn hanes addysg ym Mhrifysgol Manceinion ac wedyn yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysgol. Rwyf wedi bod ym Mhrifysgol Caerdydd ers canol y 2000au mewn nifer o rolau gwahanol sy'n ymwneud â datblygu addysg, ac rwyf wedi bod wrth fy modd â’r cyfleoedd i weithio ar draws disgyblaethau a phrosiectau cyffrous. Sefydlais y rhaglen CUROP, ac fe arweiniais gyrsiau ar-lein agored enfawr cyntaf y Brifysgol, ac rwyf wedi cefnogi 10+ o staff i ennill Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol ac wedi arwain timau ar draws addysg ddigidol a thimau dylunio cwricwlwm. Des i’n Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch yn 2021.