Ewch i’r prif gynnwys
 Helen Spittle

Helen Spittle

Cyfarwyddwr yr Academi Dysgu ac Addysgu

Trosolwg

Rôl:

Rwy'n arwain yr Academi Dysgu ac Addysgu i ddylunio a chynnig cymorth addysg sefydliadol i wneud yn siŵr bod ein blaenoriaethau strategol allweddol yn cefnogi is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr y Brifysgol.

Rwy'n gyfrifol am amcanion cyflawni strategol a rheolaeth weithredol yr Academi Dysgu ac Addysgu, ac am reoli timau arbenigol sy'n ymwneud ag Addysg Ddigidol, Datblygu Addysg, Ymgysylltu â Myfyrwyr ac Arloesedd Addysgu. Rwy’n gwneud yn siŵr bod cefnogaeth addysg ragorol yn cael ei chyflwyno'n gynaliadwy ac yn effeithiol i’r Brifysgol. Bydd yn gweithio mewn partneriaeth â'r gymuned academaidd, gan sicrhau newid trawsnewidiol mewn dysgu ac addysgu i ddiwallu anghenion a disgwyliadau myfyrwyr.

Gwaith Allweddol/Arbenigeddau

  • Arweinyddiaeth a rheolaeth - Arwain tîm amrywiol o arbenigwyr a'u gwaith gyda'n Partneriaid Academaidd
  • Rheoli Portffolio - Sbarduno newid drwy fy rôl yn Noddwr Cyflawni ar gyfer prosiectau o fewn y Portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
  • Strategaeth a Gweithrediadau - Datblygu cynlluniau gweithredu i gyflawni amcanion strategol, tra'n goruchwylio gwasanaeth parhaus o ansawdd uchel i ysgolion a cholegau
  • Cynllunio ac adnoddau - Goruchwylio cyllideb yr Academi Dysgu ac Addysgu, a chyllidebau prosiectau, a gwneud yn siŵr bod rolau staff yn glir ac wedi'u halinio'n strategol

Bywgraffiad

Ar ôl cwblhau fy BSc Ffiseg a TAR ym Mhrifysgol Birmingham, fy swydd gyntaf oedd Athro Gwyddoniaeth mewn ysgol uwchradd yn Tamworth. Ers hynny rydw i wedi gweithio ym Mhrifysgol Warwick ac wedi treulio 10 mlynedd yn Rheolwr Ysgol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl gweithio ar y rhaglen 'Trawsnewid Caerdydd' yn y camau cynnar ar secondiad o'm rôl yn Rheolwr Ysgol, newidiais i reoli datblygiad yr Academi Dysgu ac Addysgu yn ystod cyfnod COVID 19. Cefais fy mhenodi'n Gyfarwyddwr yn 2021 ac rwy'n mwynhau’r her a'r boddhad o arwain y gwaith cyffrous hwn.

Y tu allan i’r gwaith, mae’r gymuned yn bwysig i mi, ac rwy’n mwynhau cyfrannu fy amser a bod yn Llywodraethwr Ysgol yn ein hysgol gyfun leol. Symudais gyda fy nheulu i gymuned o dyddynwyr yng Nghas-gwent yn 2018 ac rwy’n treulio llawer o'm hamser hamdden yn trin y tir ac yn gofalu ar ôl yr anifeiliaid ar ein fferm fach.

Supervision

Unedau Ymchwil