Ewch i’r prif gynnwys
 Hannah Salisbury

Hannah Salisbury

Swyddog Addysg Ddigidol

Trosolwg

Cyfrifoldebau Rôl


Rwy'n Swyddog Addysg Ddigidol ac yn Bartner Ysgol i'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Rwy'n cefnogi'r defnydd o dechnoleg dysgu yn yr ysgol, gan gynnig cyngor ac arweiniad i staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol am addysgeg ac offer dysgu cyfunol, gan gynnwys Dysgu Canolog, e-asesiadau, Panopto, Mentimeter a Padlet. Rwyf hefyd yn cefnogi'r defnydd o feddalwedd gwybodaeth ddaearyddol ac offer dylunio trefol fel QGIS, SketchUp ac Adobe creative suite.

Gwaith allweddol/Arbenigeddau

  • Cefnogi'r defnydd o dechnoleg dysgu ar gyfer addysgu a dysgu; cynnig cyngor ac arweiniad technegol ac addysgeg
  • Adeiladu cyrsiau a deunyddiau ar-lein hygyrch a pherthnasol i gefnogi dysgu ac addysgu
  • Dylunio a darparu hyfforddiant ar-lein, cyfunol ac wyneb yn wyneb ynghylch addysg ddigidol a'r defnydd o offer cydweithredol ar-lein
  • Meddalwedd gwybodaeth ddaearyddol ac offer dylunio trefol
  • Adobe Creative Suite

Bywgraffiad

Dechreuais fy ngyrfa technoleg dysgu yn 2013 fel Dylunydd Dysgu mewn elusen sgiliau digidol, ble roeddwn yn adeiladu cyrsiau ac adnoddau i gefnogi pobl sy'n agored i niwed wrth iddynt ddefnyddio'r rhyngrwyd. Ers hynny, rwyf wedi gweithio ym Mhrifysgol Bryste fel Dylunydd Dysgu Ar-lein a Chyfunol, ble cynlluniais ac adeiladais gyfres o gyrsiau FutureLearn a oedd yn ymwneud â themâu cynaliadwyedd, cysylltiad byd-eang a menter. Yn 2018, symudais i Brifysgol Caerdydd lle'r oeddwn yn Dechnolegydd Dysgu yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, gan weithio ar draws yr ysgol i ddatblygu a chefnogi'r defnydd o dechnoleg dysgu. Yna, gweithiais yn y Brifysgol Agored, lle'r oeddwn yn arwain ar gyfraniad y brifysgol mewn prosiect cydweithredu AB/AU a ariennir gan CCAUC, cyn symud yn ôl i Brifysgol Caerdydd i gefnogi'r defnydd o dechnoleg dysgu, meddalwedd a graffeg yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio.

Supervision

Unedau Ymchwil