Trosolwg
Cyfrifoldebau’r rôl
Rwy'n gweithio fel Cynorthwyydd Technoleg Dysgu o fewn y Tîm Addysg Ddigidol. Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd yn amrywiol iawn gan fy mod yn gweithio o fewn yr hwb cymorth yn bennaf. Mae'r hwb cymorth yn rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio'r ystod enfawr o feddalwedd a chaledwedd a ddefnyddir o amgylch y brifysgol. Rwyf hefyd yn ymwneud â phrosiectau hirdymor, rwy'n gweithio ar brosiectau xAPI a Wacom One ar hyn o bryd.
Gwaith allweddol/Arbenigeddau
- Datrys materion sy'n codi mewn perthynas ag addysgu a dysgu mewn gweithle digidol.
- Cynghori sut i ddefnyddio'r offer digidol yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Bywgraffiad
Ymunais â Phrifysgol Caerdydd ar ddechrau 2022, roedd yn gromlin ddysgu serth ond roedd yna dîm gwych i'm croesawu! Roedd symud i addysg ddigidol, mewn capasiti cymorth, yn ymddangos yn gyfuniad perffaith o'm cefndir.
Cyn ymuno â'r brifysgol roeddwn wedi cael dau brif yrfa, a'r cyntaf gyda SA Brain. Gweithiais amryw o rolau ar gyfer Brains, gan gynnwys rhedeg tafarndai a bwytai cyn symud i TG. Gweithiais o fewn y llinell gyntaf ac ail linell o gymorth o bob agwedd ar TG i'r cwmni. Fe wnes i hyd yn oed gyflwyno'r gweminar gyntaf ar gyfer y busnes! Symudais i addysg yn ddiweddarach, gan weithio fel Technegydd a Goruchwyliwr Cyflenwi ar gyfer ysgol a chweched dosbarth Wyedean. Roedd hwn yn waith prysur ac roeddwn dan bwysau, ond roedd yn wefreiddiol!