Trosolwg
Cyfrifoldebau’r rôl
Fel Technolegydd Dysgu, rwy'n ymwneud ag ystod eang o ddysgu ac addysgu, gan gynnwys dylunio a chynllunio gweithgareddau a rhaglenni mewn partneriaeth ag academyddion, cynhyrchu deunyddiau cymorth a darparu hyfforddiant penodol. Yn fy rôl bresennol fel Partner Addysg Ddigidol ar gyfer yr Ysgol Deintyddiaeth, rwy'n gweithio'n strategol gyda chydweithwyr i wella ansawdd y ddarpariaeth ddigidol i staff a myfyrwyr.
Gwaith allweddol:
- Dylunio a chyflwyno rhaglenni ar-lein
- Hyfforddiant staff
- Datblygu adnoddau cymorth
- Histopatholeg ddigidol
- Datblygiad microgredydau FutureLearn-Caerdydd
Bywgraffiad
Yr oeddwn ymhlith y genhedlaeth gyntaf o Dechnolegwyr Dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yr wyf wedi profi esblygiad y proffesiwn dros y blynyddoedd. Roedd fy swydd gyntaf yn yr adran Dermatoleg, lle'r oeddwn yn allweddol yn natblygiad rhai cyrsiau a phrosiectau dysgu o bell arloesol, gan gynnwys addysgu histopatholeg ar-lein a ffrydio llawdriniaeth Dermatoleg yn fyw. Symudais yn ddiweddarach i'r tîm Technoleg Dysgu sydd yn ganolog yn yr Ysgol Meddygaeth lle parheais i gynnig cymorth a hyfforddiant. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn gweithio fel Partner Ysgol Addysg Ddigidol i'r Ysgol Deintyddiaeth.
Mewn bywyd blaenorol, chwaraeais gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd.