Ewch i’r prif gynnwys
Andre Du Plooy

Mr Andre Du Plooy

Partner Addysg Ddigidol

Trosolwyg

Cyfrifoldebau’r rôl

Rwy'n rheolwr sydd wedi’i achredu gan iAct ac yn gweithio o fewn Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd fel partner addysg ddigidol ar gyfer ARCHI a EARTH. Fel aelod o dîm yr Academi rwy'n gweithio gydag ysgolion i gefnogi a datblygu eu staff wrth iddynt fabwysiadu a defnyddio technolegau dysgu, hyrwyddo arferion addysgeg da a datblygu strategaethau dysgu / addysgu / asesu.


Gwaith allweddol/Arbenigeddau

  • Ar wahân i fy nghyfrifoldebau partner, rwy'n arwain ar un neu ddau o brosiectau sydd o ddiddordeb arbennig i mi:
    Archwilio'r defnydd o XApi ar gyfer monitro a gwerthuso gweithgarwch myfyrwyr mewn prosiectau Xerte
  • Adolygiad o dabled Wacom one graphics.

Rwyf hefyd yn cefnogi prosiect adnoddau staff Prifysgol Caerdydd.


Mae fy arbenigeddau'n canolbwyntio ar dechnolegau digidol a sut maent yn cyfrannu at arferion addysgeg cadarn. Rwy'n gyfarwydd iawn â gweithredu atebion hybrid ac mae gen i brofiad helaeth o fabwysiadu a gweithredu technolegau dysgu newydd ar lefel sefydliadol.

Ymchwil

  • Banteli, A., Du Plooy, A. ac O'Dwyer, S., 2017. Collaborative Learning: Developing a Framework for the Integration of Online Collaborative Learning Tools. EDULEARN17 Proceedings, 1, tt.1066-1076.
  • Banteli, A., O'Dwyer, S. a Du Plooy, A., 2018. E-portfolio application for student reflection and engagement in three case studies in an Architecture School in the United Kingdom. Yn Edulearn 18. 10th International Conference on Education and New Learning Technology:(Palma, 2nd-4th of July, 2018). Conference proceedings (tt. 1179-1188). IATED Academy.

Bywgraffiad

Mae gennyf bortffolio proffesiynol eang iawn sy'n rhychwantu tua 27 mlynedd. Ar ôl dechrau fy ngyrfa mewn hysbysebu a marchnata, darganfyddais yn gyflym fy mod â thuedd naturiol i ddatblygu datrysiadau addysgol. Roedd hyn yn gofyn am lefel uchel o fentergarwch ac arloesedd yn y 90au a dechrau'r 00au, rhywbeth rwy'n dal i'w fwynhau a’i ymarfer hyd heddiw. Ar ôl bod gyda Phrifysgol Caerdydd am ddeg mlynedd bellach, rwyf wedi dysgu i werthuso prosiectau gyda phwyslais mawr ar arferion addysgeg da ac ansawdd gweithredu, wrth gadw llygad ar y gallu i raddio a’r potensial mabwysiadu ehangach. Mae gennyf ddiddordeb brwd yn y rhyngwyneb dynol – cyfrifiadurol ac archwilio rhyngweithio drwy ddulliau confensiynol (bysellfwrdd/llygoden) a dulliau mwy dyfeisgar (llais, olrhain dwylo, AR/VR)