Trosolwyg
Cyfrifoldebau rôl
Rwy'n Rheolwr Dysgu Digidol yn yr Academi Dysgu ac Addysgu ac yn gyfrifol am arwain prosiectau a mentrau addysg ddigidol strategol fel rhan o'r portffolio Addysg a Phrofiad Myfyrwyr – gan gynnwys fel Arweinydd Busnes ar gyfer prosiect Amgylchedd Dysgu Digidol ledled y Brifysgol, ac fel Dirprwy Arweinydd Busnes ar gyfer y prosiect Dysgu Hyblyg.
Gwaith allweddol/arbenigedd
- Arwain ar brosiectau a mentrau Addysg Ddigidol strategol
- Rheoli'r bartneriaeth gyda FutureLearn a goruchwylio datblygiad cyrsiau ar-lein newydd ar y platfform
Bywgraffiad
Mae gen i dros 20 mlynedd o brofiad mewn arwain a rheoli prosiectau TG strategol, dysgu digidol, a chyfrifiadura ymchwil o fewn y sector prifysgolion. Ymunais â Phrifysgol Caerdydd yn 2016 fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer Uwchgyfrifiadura Cymru – rhaglen fuddsoddi gwerth £16 miliwn, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru – i roi mynediad i dimau ymchwil prifysgolion at gyfleusterau cyfrifiadura pwerus. Cyn hynny, bûm yn arwain y gwaith o ddatblygu portffolio o wasanaethau dysgu digidol cyfrwng Cymraeg cenedlaethol yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – gan gynnwys amgylchedd dysgu rhithwir cenedlaethol cyntaf Cymru, 'Y Porth'.
Ymunais ag Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd yn 2020, ac fel aelod o'r tîm Addysg Ddigidol, rwy’n gyfrifol am arwain a chefnogi cyfres o brosiectau a mentrau sefydliadol cyfan.