Trosolwg
Cyfrifoldebau’r rôl
Fel Rheolwr Dysgu Digidol ar gyfer yr Academi Dysgu ac Addysgu rwy'n rheoli neu'n cefnogi nifer o fentrau a phrosiectau addysg ddigidol. Fi yw partner y coleg addysg ddigidol ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, a hefyd yn bartner ysgol i Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a'r Ysgol Cerddoriaeth.
Gwaith allweddol/arbenigedd
- Goruchwylio mewnbwn addysg ddigidol i Raglen DPP yr Academi ar gyfer Dysgu ac Addysgu.
- Goruchwylio'r gwaith o ddatblygu a darparu adnoddau addysg ddigidol i staff.
- Rheoli cyfathrebu'r tîm addysg ddigidol.
- Cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus cydweithwyr ym maes addysg ddigidol.
Cyhoeddiadau
Luke, K., ac Evans, G. (2021). Myfyrwyr fel partneriaid mewn addysg ddigidol: Archwilio recordio darlithoedd mewn addysg uwch drwy bartneriaeth rhwng myfyrwyr a thechnolegwyr dysgu. International Journal for Students As Partners, 5(2), 78–88.
Evans, G., a Luke, K. (2020). Recordio darlithoedd a gweithio gan gymheiriaid: archwilio arferion astudio drwy bartneriaethau staff-myfyrwyr. Research in Learning Technology, 28. https://orca.cardiff.ac.uk/129824/
Bywgraffiad
Rwy’n dechnolegydd dysgu mewn addysg uwch ers 2006, a arferai weithio ym Mhrifysgol Birmingham cyn symud i Brifysgol Caerdydd yn 2014
Fel rheolwr Prosiect eDdysgu yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, gweithiais ar draws yr ysgol i ymgorffori dysgu â chymorth technoleg, gan gynnwys datblygu a chefnogi nifer o raglenni dysgu o bell ar-lein a chyfunol.
Ymunais â'r Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd (Academi DA) ym mis Mai 2020 fel swyddog technoleg dysgu ac ym mis Medi y flwyddyn honno fe'm penodwyd yn Rheolwr Dysgu Digidol.
Rwy’n Aelod Ardystiedig o'r Gymdeithas Technoleg Ddysgu (ALT) ers 2016, ar ôl cyflwyno fy mhortffolio diweddaraf yn 2019. Rwyf hefyd yn asesydd CMALT ac yn defnyddio'r profiad hwn i fentora cydweithwyr yn y tîm addysg ddigidol sy'n gwneud cais am ardystiad ALT.