Trosolwg
Cyfrifoldebau’r rôl
Rwy'n Rheolwr Dysgu Digidol o fewn yr Academi Dysgu ac Addysgu. Rwy'n gweithio gyda chydweithwyr academaidd a phroffesiynol ar draws y Brifysgol i ddatblygu map addysg ddigidol y Brifysgol, gan gyfrannu at brosiectau sy'n canolbwyntio ar drawsnewid arferion dysgu ac addysgu. Fi yw'r Cyd-Bartner Addysg Ddigidol ar gyfer Coleg y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a Phartner Addysg Ddigidol i'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
Gwaith allweddol/arbenigedd
- Hygyrchedd a Chynhwysiant mewn Addysg Ddigidol
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer Technolegwyr Dysgu
- Polisi Addysg Ddigidol
- Llythrennedd Digidol
Cyhoeddiadau
Luke, K., Wood, S. 2021. Prosiectau a arweinir gan fyfyrwyr: Defnyddio Xerte ar gyfer asesiadau crynodol dilys. Cyflwynwyd yn: Cynhadledd Xerte21.https://orca.cardiff.ac.uk/139820/
Phipps, L., Allen, R., Hartland, D., Bryant, P., Hussain, A., Wood, S., Rowett, S., Scott, A.-M., Krohn, A. 2018. Next Generation [Digital] Learning Environments: Present and Future. https://repository.jisc.ac.uk/6797/
Wood, S., Romero, P. 2010. User-centred design for a mobile learning application. MexIHC '10: Proceedings of the 3rd Mexican Workshop on Human Computer Interaction tt77–84. https://dl.acm.org/doi/10.5555/1978702.1978719
Wood, S., Romero,p. 2010. Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Dysgwr ar gyfer Cymhwysiad Rhyngweithio Hybrid. Journal of Educational Technology & Society 13, rhif 3 tt. 43–54. http://www.jstor.org/stable/jeductechsoci.13.3.43
Bywgraffiad
Rwy'n addysgwr sydd â thros ddegawd o brofiad mewn dysgu ac addysgu uwch mewn technoleg mewn Addysg Uwch ym Mhrifysgol Caerdydd (a bron i ddegawd o brofiad mewn Addysg Bellach cyn hynny, fel athro mathemateg a rheolwr). Rwyf wedi gweithio yn y gwasanaethau proffesiynol canolog, ysgol academaidd, a choleg gan gynnwys gweithio i Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ledled Cymru. Yn ogystal â hyfforddi staff, rwy'n addysgu addysgwyr meddygol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Ymunais ag Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd yn haf 2020 a dechreuais fy rôl bresennol fel Rheolwr Dysgu Digidol ar ddechrau 2021.