Ewch i’r prif gynnwys
Tony Lancaster

Tony Lancaster

Rheolwr Dysgu Digidol

Trosolwyg

Cyfrifoldebau rôl

Uwch Reolwr yn y Tîm Addysg Ddigidol, sy'n rhan o Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd, yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion academaidd i gefnogi dysgu ar-lein a chyfunol.

Gwaith allweddol/arbenigeddau

  • Addysg Ddigidol / Dysgu a Gyfoethogir gan Dechnoleg
  • Gwella'r Amgylchedd Dysgu Digidol
  • Rheoli Newid Busnes / Rheoli Newid mewn Addysg Uwch
  • Arweinyddiaeth / Rheoli Tîm
  • Mentora / Hyfforddi

Cyhoeddiad

2022

Cynadleddau

Bywgraffiad

Mae Tony yn Rheolwr Dysgu Digidol o fewn y Tîm Addysg Ddigidol, sy'n rhan o Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd, sy'n cefnogi ystod o ddulliau darparu addysgu, sydd yn aml ar flaen y gad o ran technoleg newydd a thechnoleg sy'n dod i'r amlwg i gefnogi ymarfer arloesol.

Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad mewn Addysg Uwch mewn nifer o rolau gan gynnwys addysg ddigidol, newid busnes, a rheoli prosiectau. Mae wedi arwain a chyfrannu at sawl prosiect arloesi sefydliadol i gefnogi staff i ddatblygu eu sgiliau a'u hymarfer, yn enwedig arwain y rhaglen addysg ddigidol a oedd yn cefnogi staff academaidd a myfyrwyr i addysgu a dysgu ar-lein trwy bandemig COVID-19.