Ewch i’r prif gynnwys
Rebecca Thomas

Dr Rebecca Thomas

Darlithydd mewn Hanes Canoloesol

Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Email
ThomasR165@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29225 12385
Campuses
Adeilad John Percival , Ystafell Ystafell 2.64, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Rwy'n arbennigo ar hanes, diwylliant, a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol. Y broses o greu hunaniaethau Cymreig mewn testunau canoloesol yw fy mhrif ddiddordeb ymchwil, a chyhoeddwyd fy llyfr ar y pwnc hwn, History and Identity in Early Medieval Wales, gan Boydell & Brewer yn Ebrill 2022. Mae'r gyfrol hon yn archwilio'r nodweddion a ddefnyddiwyd fel arwyddion o hunaniaeth mewn testunanu Lladin a Chymraeg o'r nawfed ganrif a'r ddegfed, gan gynnwys enwau, tiriogaeth, iaith, a chwedlau tarddiad. Mae rhyngdestunoldeb yn thema hollbwysig, ac rwy'n archwilio dylanwad testunau o rannau eraill o Brydain ac Ewrop ar strategaethau Cymreig o greu hunaniaethau.

Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn cysylltiadau gwleidyddol a diwylliannol rhwng Cymru a'r byd ehangach yn yr Oesoedd Canol. Mae fy ymchwil yn y maes hwn yn cynnwys trafodaeth o bererindodau brenhinol o Gymru i Rufain yn y nawfed ganrif a'r ddegfed, ac astudiaeth o gysylltiadau Môr Iwerddon y brenin Cymreig Gruffudd ap Cynan (m. 1137). Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio ar dystiolaeth yr Anglo-Saxon Chronicles o gysylltiadau rhwng y Cymry a'r Saeson yn yr unfed ganrif ar ddeg.

Mae fy niddordeb mewn hunaniaethau Cymreig yn ymestyn i gyfnodau eraill ac rwyf yn gweithio ar astudiaeth o ganoloesoldeb, hunaniaeth, ac iaith mewn ysgrifennu cenedlaetholgar Cymraeg o'r ugeinfed ganrif.

Prosiectau

2019-22: Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol yr Academy Brydeinig ('Ysgrifennu Byd y Gymru Ganoloesol')

2019: Cynorthwydd Ymchwil, Vitae Sanctorum Cambriae Project (prosiect AHRC, Prifysgol Caer-grawnt a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd)

Ysgrifennu Creadigol

Rwyf hefyd yn ysgrifennu yn greadigol a chyhoeddwyd fy nofel hanesyddol ganoloesol i oedolion ifanc, Dan Gysgod y Frenhines, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2022. Cyhoeddir fy ail nofel haneysddol ganoloesol i oedolion ifanc,Y Castell ar y Dŵr gan Wasg Carreg Gwalch yn haf 2023.

Yn 2022, fe'm penodwyd yn Awdur Preswyl Cymraeg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i weithio ar brosiect creadigol yn ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd. 

Enillodd fy ysgrif ar dirwedd ac enwau lleoedd yn ne Cymru, 'Cribo'r Dragon's Back', gystadleuaeth ysgrif gyntaf O'r Pedwar Gwynt yn 2021. 

Cyhoeddiad

2023

2022

2021

2020

2019

2018

2017

Articles

Book sections

Books

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil ym maes hanes canoloesol yn cynnwys:

  • Cysylltiadau rhwng Cymru a'r byd ehangach
  • Creu hunaniaethau
  • Ysgrifennu hanesyddol a chwedlau tarddiad
  • Iaith, amlieithrwydd a chyfieithu testunau Lladin i'r Gymraeg
  • Rhyngdestunoldeb a rhwydweithiau ysgolheigaidd
  • Cenedl a chenedlaetholdeb

Mae gen i ddiddordeb hefyd yn nerbyniad y gorffennol canoloesol yn y Gymru fodern.

Addysgu

Rwyf yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.

Mae gen i brofiad dysgu helaeth yng Nghaerdydd, Bangor, Coleg y Brenin Llundain, a Chaer-grawnt yn y meysydd canlynol: Hanes Canoloesol (Prydain a Chymru yn enwedig); Dehongli'r Gorffennol; Hunaniaeth a Diwylliant Cymreig (canoloesol a modern); Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Rydw i wedi goruchwylio traethodau hir is-raddedig ac ôl-raddedig ar bynciau yn gysylltiedig â'r Gymru ganoloesol a Chymru yn y byd modern.

Bywgraffiad

Swyddi Academaidd

2023-presennol: Darlithydd mewn Hanes Canoloesol

2019-2023: Cymrawd Ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig, Prifysgol Bangor/Caerdydd

2019: Ymchwilydd Cynorthwyol, Prosiect Vitae Sanctorum Cambriae (Prifysgol Caer-grawnt; Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd)

Addysg a Chymwysterau

2019: PhD, Adran Eingl-Saesneg, Llychlynneg a Chelteg, Prifysgol Caer-grawnt (ariannwyd yn llawn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Derbyniais wobr Is-Ganghellor Prifysgol Caer-grawnt ac ysgoloriaeth Coleg Sant Ioan)

2015: MPhil, Adran Eingl-Saesneg, Llychlynneg a Chelteg, Prifysgol Caer-grawnt (ariannwyd yn llawn gan ysgoloriaeth Coleg Sant Ioan)

2014: BA Hanes, Prifysgol Caer-grawnt

Swyddi eraill

2014-19: Ymchwilydd Cynorthwyol, Sylloge of Coins of the British Isles

2017-18: Athro Cynorthwyol, Coleg y Brenin Llundain

Aelodaethau proffesiynol

Array

Pwyllgorau ac adolygu

Array