Ewch i’r prif gynnwys
Nicholas Jones

Nicholas Jones

Senior Lecturer

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Trosolwyg

Mae Nicholas Jones yn awdur ac yn sylwebydd gwleidyddol.

Bu'n ohebydd gwleidyddol a diwydiannol y BBC am ddeng mlynedd ar hugain ac mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar y berthynas rhwng gwleidyddion a'r cyfryngau newyddion. Mae ei lyfrau'n cynnwys Strikes and the Media (1986), Soundbites and Spin Doctors (1995) a Sultans of Spin (1999).

Mae Leaks, Lies and Tip-offs (2006) yn archwilio byd cudd lle mae gwleidyddion a'u cynorthwywyr yn rhannu gwybodaeth â newyddiadurwyr ar sail ddi-gydnabyddiaeth ac yn aml yn ddienw.

Ei ddau lyfr diweddaraf yw Campaign 2010: The Making of the Prime Minister (sy'n cwmpasu etholiad cyffredinol Prydain ym mis Mai 2010) a The Lost Tribe of Fleet Street (Mawrth 2011) sy'n archwilio tranc adroddiadau diwydiannol a'r duedd i adrodd ar fyd gwaith o safbwynt ariannol a busnes yn hytrach na thrwy'r effaith ar swyddi ac amodau cyflogaeth.

Mae Jones yn cyfrannu'n rheolaidd at ddadleuon ar faterion sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth a'r cyfryngau, ac mae hefyd wedi cymryd diddordeb mawr mewn materion sy'n effeithio ar safonau ac ymarfer newyddiaduraeth. 

Dyfarnwyd doethuriaeth er anrhydedd iddo gan Brifysgol Wolverhampton yn 2005 a'i benodi'n athro gwadd anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2011.

Gellir cael gafael ar ei sylwadau yn: www.nicholasjones.org.uk