Ewch i’r prif gynnwys

Trosolwyg

Alma sy'n gyfrifol am weinyddu cyllideb Prifysgol Caerdydd Media Cymru, gan gynnwys cystadlaethau ariannu eilaidd fel yr Innovation Pipeline. Mae hi hefyd yn gyfrifol am oruchwylio’r holl feysydd rheoli swyddfa a datblygu gofod swyddfa'r Tîm Darparu yn Neuadd y Ddinas.   

Mae Alma wedi bod yn gweithio yn y maes cyllid ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2012, ar draws gwahanol adrannau. Cyn hyn bu Alma'n gweithio i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau Caffael mewn cyllid ac archwilio a gyda Gwasanaeth Llysoedd EM mewn cyllid a rheoli prosiectau ar raglenni rhanbarthol a chenedlaethol.