
Dr Llion Pryderi Roberts
FHEA
Uwch-ddarlithydd
- robertslp1@caerdydd.ac.uk
- +44(0)29 2087 5304
- 1.76, Adeilad John Percival , Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
- Siarad Cymraeg
- Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig
Trosolwg
Rwy’n ddarlithydd yn y Gymraeg. Ymhlith fy niddordebau ymchwil ac addysgu y mae
- Llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a llenyddiaeth gyfoes (yn benodol barddoniaeth rydd a chynganeddol)
- Rhyddiaith y bedwaredd ganrif ar bymtheg (yn benodol cofiannaeth)
- Y cofiant, hunangofiant a llên bywyd
- Ysgrifennu Creadigol a sgiliau ysgrifennu
Graddiais yn y Gymraeg a Hanes Cymru yn y Brifysgol hon cyn mynd ati i gwblhau traethawd MPhil ar feirniadaethau eisteddfodol Syr John Morris-Jones yn 2002. Bûm yn aelod o adran olygyddol Gwasg Prifysgol Cymru cyn cael fy mhenodi yn 2003 yn Gynorthwyydd Ymchwil ar y prosiect ‘Perfformio o’r Pulpud’ yma yn Ysgol y Gymraeg, sef astudiaeth o elfennau llafar a pherfformiadol pregethu dramatig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Yn 2011, dyfarnwyd imi radd PhD am draethawd ar ddatblygiad y cofiant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan roi sylw arbennig i gofiannau’r Parch Owen Thomas (Lerpwl) i’r pregethwyr amlwg a nerthol John Jones, Tal-y-sarn a Henry Rees. Rhwng 2009 a 2014, bûm yn cyfrannu at ddysgu’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yma yn Ysgol y Gymraeg.
Anrhydeddau a Dyfarniadau
- BA Anrhydedd yn y Gymraeg a Hanes Cymru Prifysgol Cymru Caerdydd 1997
- MPhil Prifysgol Caerdydd 2002
- PhD Prifysgol Caerdydd 2011
- Cymrawd yr Academi Addysg Uwch 2014
Safleoedd academaidd blaenorol
- Cynorthwyydd Ymchwil Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
- Tiwtor Iaith a Llenyddiaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
Ymrwymiadau siarad cyhoeddus
- ‘Duw Dawn a Dickens: Ar Drywydd Owen Thomas Lerpwl’ (Eisteddfod Genedlaethol Awst 2012)
- ‘“Pob peth yn cydweithio er daioni”: Cofiant...Thomas Charles’ (Llanbedr Pont Steffan Ebrill 2013)
- ‘Cofiannau Pregethwyr y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’ (Llyfrgell Genedlaethol Cymru Mehefin 2013)
- 'Holi’r Prifardd Rhys Iorwerth’ (Eisteddfod Genedlaethol Awst 2014)
- ‘Barddoniaeth a Barddoni’ (Clwb Cinio Pen-y-bont ar Ogwr) (Chwefror 2015)
- '“Fy nghawl fy hun”: hunan/gofiant Gerallt Lloyd Owen' (Cyngres Ryngwladol Astudiaethau Celtaidd Glasgow (Gorffennaf 2015)
Pwyllgorau ac adolygu
- Bwrdd Ysgol y Gymraeg
- Pwyllgor Dysgu ac Addysgu Ysgol y Gymraeg (Cadeirydd)
- Bwrdd Astudiaethau (BA) Ysgol y Gymraeg (Cadeirydd)
- Bwrdd Arholi Ysgol y Gymraeg
- Panel Amgylchiadau Esgusodol Ysgol y Gymraeg (Cadeirydd)
- Bwrdd Astudiaethau (MA) Ysgol y Gymraeg
- Pwyllgor Ymchwil Ysgol y Gymraeg
- Rhwydwaith Polisi Addysg a Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
- Fforwm Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu Coleg y Celfyddydau
- Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
- Pwyllgor Llywio Ymgysylltu â Myfyrwyr Portffolio Addysg Prifysgol Caerdydd
Cyhoeddiadau
2013
- Rosser, S. et al. eds. 2013. Llên Cymru. Cardiff: University of Wales Press.
2011
- Roberts, L. P. 2011. 'Mawrhau ei swydd': Owen Thomas, Lerpwl (1812-91) a chofiannau pregethwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg. PhD Thesis, Cardiff University.
1998
- Evas, J. et al. eds. 1998. Yr Awen: Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd, 1998. Caerdydd: Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.