Ewch i’r prif gynnwys
Claire Scott

Mrs Claire Scott

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Email
ScottC13@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29208 74560
Campuses
sbarc|spark, Heol Maendy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ

Trosolwyg

Fel Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, prif rôl Claire yw codi proffil yr Uned DPP, a hyrwyddo'r amrywiaeth wych o gyfleoedd hyfforddiant a datblygu y mae Prifysgol Caerdydd yn ei chynnig i fusnesau, byd diwydiant, a gweithwyr proffesiynol.

Mae Claire yn gweithio'n agos â'r Uned DPP, gan gynnwys Rheolwyr Datblygu Busnes a Swyddogion Prosiect, i arddangos y cyfleoedd hyblyg, cydweithredol ac arloesol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bywgraffiad

Ymunais â'r Uned DPP ar ôl pum mlynedd o weithio fel uwch reolwr cyfrif mewn asiantaethau marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, a chyfathrebu. Mae gen i brofiad ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau marchnata, gan gynnwys digidol, cyfryngau cymdeithasol, cyfryngau traddodiadol a rheoli digwyddiadau. Rwy'n arbennig o hoff o ysgrifennu a datblygu ymwybyddiaeth o brosiect neu wasanaeth drwy ennyn diddordeb pobl ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae gen i radd BA Anrh mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Athroniaeth o Brifysgol Caerdydd, ac ar hyn o bryd rwy'n astudio ar gyfer cymhwyster Prawfddarllen.