Ewch i’r prif gynnwys
Gwyneth Hayward   FHEA MSc

Mrs Gwyneth Hayward

(Mae hi'n)

FHEA MSc

Darlithydd: Ffisiotherapi (Cymraeg/Dwyieithog)

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Email
RichardsGA@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 29225 11786
Campuses
Tŷ Dewi Sant, Ystafell 2.17, Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN
cymraeg
Siarad Cymraeg

Trosolwyg

Roeddwn yn Ymarferydd Cyswllt Cyntaf (ffisiotherapydd) yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol yng Ngorllewin Cymru hyd haf 2022. Mentrais i’r byd academaidd fel darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd pum mlynedd yn ôl, wedi i mi gwblhau modiwlau Rhagnodi Annibynnol. Rwyf bellach wedi gorffen fy ngradd Meistr a llwyddais i ddod yn aelod FHEA yn 2021. Ariannwyd fy swydd wreiddiol yng Nghaerdydd yn rhannol gan grant darlithiwr cysylltiol (dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) a chyllid ffisiotherapi, er mwyn i mi allu cefnogi myfyrwyr oedd yn siarad Cymraeg ac i ddatblygu adnoddau Cymraeg/dwyieithog i’r Rhaglen Ffisiotherapi israddedig. Rwy’n awchus i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ffisiotherapyddion, yn ogystal ag annog clinigwyr a myfyrwyr ôl-radd i fod yn ddysgwyr gydol oes.

Ymchwil

Ffocws fy ngwaith ymchwil ydy astudiaethau addasol sy’n casglu gwybodaeth am ganfyddiadau a phrofiadau myfyrwyr , o safbwynt y ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg sydd ar gael ar eu cyfer, a sut orau i gynnwys hwn yn y cwricwlwm. Mae gennyf ddiddordeb hefyd ym mesuriadau o brofiadau’r cleifion wedi iddynt ymweld â chlinigwyr ffisiotherapi (PREMS).

Addysgu

Fy mlaenoriaeth oedd cefnogi’r rhaglen israddedig, tan yn weddol ddiweddar. Roedd hyn yn golygu dysgu sesiynau ymarferol gan gynnwys anatomi a sgiliau ymarferol Ffisiotherapi, yn ogystal â chyflwyno gwaith mewn modiwl sy’n ymwneud â ffisiotherapi ym maes iechyd a chymdeithas. Rwy'n dysgu myfyrwyr blwyddyn tri ar fodiwl sy’n ymdrin â gwaith a chyflogaeth, ac yn goruchwylio myfyriwr israddedig gyda’u traethodau hir, yn cynnwys astudio ymwybyddiaeth eu cyfoedion o’r ‘Cynnig Rhagweithiol’. Ymfalchïaf yn fy rôl fel tiwtor personol i fyfyrwyr - rhai’n  siarad Cymraeg, eraill ddim. Mae gennyf fewnbwn i addysg ôl-raddedig, wrth ddysgu ar y modiwl sy’n hyfforddi Ymarferwyr Cyswllt Cyntaf. Rwyf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr Meistr gyda’u traethodau hir yn ogystal â dysgu ar y cwrs Meistr Ffisiotherapi newydd - ar gyfer myfyrwyr sydd wedi graddio mewn maes arall. Yn rhinwedd fy swydd, mae’n ofynnol i mi farcio aseiniadau ysgrifenedig gan fyfyrwyr sy’n derbyn yr Ysgoloriaeth Gymhelliant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: maent yn astudio traean o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n falch i fod yn aelod o'r tim Derbyn ac i fynychu Diwrnodau Agored y Brifysgol a Ffeiriau Gyrfaoedd. 

Bywgraffiad

Fe’m haddysgwyd yn Ysgol Gynradd Llanycrwys, Sir Gâr ac yna’n Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Mentrais dros Glawdd Offa i fynychu Coleg Polytechnig Gogledd-ddwyrain Llundain ac Ysbyty Llundain rhwng 1984-1988. Roedd y Rhaglen Ffisiotherapi israddedig a gynigwyd yno gyda’r cyntaf o’i math ym Mhrydain. Mi raddiais â gradd gydag anrhydedd, ag arbenigedd clinigol. Gweithiais yn Ysbyty Treforys am ddwy flynedd; roedd hyn yn sylfaen arbennig i’m gyrfa.  Treuliais amser wedi hynny yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth yn ehangi fy ngwybodaeth ym meysydd amrywiol y proffesiwn. Derbyniais swydd arbenigol cleifion-allanol yng Nghanolfan Iechyd Llambed, lleoliad bach a gwledig, ac roeddwn wrth fy modd yno. Adleoliwyd yr Adran Ffisiotherapi flynyddoedd yn ddiweddarach, a mwynheais weithio ym Meddygfa Llambed; cefais brofiad o weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol yno ac achubais ar y cyfle o ddatblygu fy ngyrfa fel Rhagnodwr Annibynnol. Datblygais fu rôl i fod yn Ymarferydd Cyswllt Cyntaf (ffisiotherapydd) yng Nghlwstwr Gofal Sylfaenol yng Ngorllewin Cymru am gyfnod o bron pedair blynedd. Ym mis Gorffennaf 2022 penderfynnais ganolbwyntio ar fy ngyrfa fel darlithydd yng Nghaerdydd. Rwyf erbyn hyn yn gweithio tri neu bedwar diwrnod,bob yn ail wythnos.      

External profiles