Trosolwg
Rwy'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig mewn Iaith, Polisi a Chynllunio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Ymchil
Traethawd ymchwil
Gwerthusiadau o Acenion Cymraeg
Gwyddys bod pobl yn defnyddio acen, ymhlith cliwiau eraill, er mwyn gwerthuso’i gilydd yn gymdeithasol (Coupland a Bishop, 2007). Tra bo acenion Saesneg ansafonol, er enghraifft, yn aml yn cael eu gweld yn gymdeithasol-atyniadol, maent hefyd yn dueddol o gael eu hystyried yn llai urddasol (Durham, 2016). Mae’r fath ystrydebau negyddol yn aml yn arwain at achosion o wahaniaethu (Lippi Green, 1997) a goblygiadau negyddol o ran symudoledd cymdeithasol (Ashley et al., 2015). Er gwaetha’r holl ymchwil i’r iaith Saesneg, ychydig a wyddom am ragdybiaethau cymdeithasol amrywiadau ar y Gymraeg a siaredir heddiw (gweler Robert, 2009). Mae cyd-destun y Gymraeg yn codi cwestiynau diddorol gan ystyried, yn gyntaf, ddiffyg acen safonol o fri (sydd hefyd yn fater dadleuol) ac, yn ail, y mathau newydd o Gymraeg sydd wedi datblygu yn sgil datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg a chreu ‘siaradwyr newydd’ o aelwydydd di-Gymraeg (Coupland a Ball, 1989).
Nod y prosiect yw ymchwilio i ganfyddiadau cymdeithasol a gwerthusiadau o acenion Cymraeg. Byddaf yn mynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:
- I ba raddau y mae gwrandawyr yn gallu adnabod cefndir ieithyddol a lleoliad daearyddol y siaradwyr yn seiliedig ar eu hacen?
- Yn ôl canfyddiadau’r gwrandawyr, pa briodweddau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â siaradwyr acenion Cymraeg gwahanol?
- I ba raddau y mae oed, rhyw, lleoliad daearyddol a chefndir ieithyddol y gwrandawyr yn dylanwadu ar eu gwerthusiadau cymdeithasol?
Nod polisi cyfredol Llywodraeth Cymru yw cynyddu defnydd y Gymraeg drwy sicrhau bod siaradwyr yn teimlo’n hyderus a thrwy ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith (Llywodraeth Cymru, 2017). Bydd canlyniadau’r astudiaeth hon yn bwrw goleuni ar y graddau y gall rhagfarnau yn erbyn acenion rwystro’r amcanion hyn.
Ffynhonnell ariannu
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Goruchwyliaeth

Dr Jonathan Morris
Cyfarwyddwr Ymchwil
