Ewch i’r prif gynnwys

Trosolwyg

Rwy'n fyfyriwr PhD ym maes dementia a chyfathrebu. Cyn cyrraedd Caerdydd, cwblheais astudiaethau ôl-raddedig mewn patholeg lleferydd ac iaith, lle cefais drwydded glinigol fel therapydd lleferydd ac iaith.

Reserach: Archwilio strategaethau cyfathrebu ymhlith gofalwyr i bobl sy'n byw gyda chlefyd Alzheimer

Rwy'n cael fy ariannu gan yr ESRC, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, ac Ymchwil Gofal Iechyd Cymru. Ar ben hynny, mae gen i bartner allanol, 'Empowered Conversations', sef gwasanaeth addysgol a ariennir gan Age UK, gyda'r nod o wella galluoedd cyfathrebu gofalwyr i bobl sy'n byw gyda dementia. Rwyf ar hyn o bryd yn fy mlwyddyn gyntaf ac nid wyf wedi dechrau unrhyw astudiaethau empirig eto. Bydd fy data yn cynnwys recordiadau o bobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr, a chyfweliadau ansoddol gyda gofalwyr. Rwy'n bwriadu archwilio'r hyn y mae gofalwyr i bobl sy'n byw gyda dementia yn ei ddweud sydd ei angen arnynt o ran cymorth cyfathrebu, a dehongli eu hymatebion trwy lens damcaniaethau pragmatig lluosog.

Cefndir Academaidd

  • MA mewn Patholeg Lleferydd ac Iaith, Prifysgol Linköping, Sweden (2014-2018)
  • MA mewn Ymchwil Iaith a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd (2019-2020; Teilyngdod)

Cyhoeddiad

2024

Articles

Ymchwil

Mae fy ymchwil yn anelu at wella strategaethau lliniaru cyfathrebu ar gyfer gofalwyr i bobl sy'n byw gyda dementia. Bydd fy data yn cynnwys recordiadau o gyfathrebu mewn cyd-destun dementia, a chyfweliadau ansoddol gyda gofalwyr i bobl sy'n byw gyda dementia. Byddaf yn dehongli'r data hyn trwy lens fframweithiau damcaniaethol lluosog er mwyn archwilio sut mae strategaethau lliniaru cyfathrebu yn hwyluso cyfathrebu. 

Goruchwylwyr

Alison Wray

Alison Wray

Distinguished Research Professor