Trosolwyg
Rwy'n fyfyriwr PhD sy'n ymchwilio i ddulliau cyfieithu termau diwylliannol penodol, yn benodol o Tsieinëeg i'r Gymraeg.
Rydw i wedi fy lleoli yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, gyda goruchwyliaeth gan Ysgol y Gymraeg.
Mae gen i radd israddedig mewn Tsieinëeg o Brifysgol Rhydychen gyda blwyddyn dramor ym Mhrifysgol Peking ac MSc mewn Astudiaethau Cyfieithu o Gaerdydd.
Ymchwil
Nod fy nhraethawd ymchwil yw archwilio dulliau ar gyfer cyfieithu termau cyfwerth am y tro cyntaf mewn cyfuniadau iaith nad ydynt wedi cael llawer o gyfieithiadau blaenorol, yn yr achos hwn o Tsieinëeg i'r Gymraeg. Mae'n defnyddio geiriau o dair astudiaeth achos iaith Tsieinëeg sy'n dod o wahanol genres a chyfnodau hanesyddol. Bydd fy ymchwil yn ystyried sut i wneud y penderfyniad rhwng benthyca a ffurfio geiriau, ac yna sut i gyfieithu neu ffurfio geiriau newydd ar gyfer geiriau a nodwyd yn yr astudiaethau achos.
Goruchwylwyr
Siwan Rosser
Senior Lecturer and Director of Learning and Teaching