Ewch i’r prif gynnwys
Ani Saunders Saunders

Dr Ani Saunders Saunders

Myfyriwr ymchwil

Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Email
SaundersAE@caerdydd.ac.uk
Campuses
Adeilad Morgannwg, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Trosolwyg

Mae Ani Saunders yn ymgeisydd PhD yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd, y DU. Mae'n arbenigo mewn ymchwil ar ddatblygu trefol a rhanbarthol gyda diddordeb penodol yn agweddau a phriodoleddau cymdeithasol a diwylliannol rhanbarthau hen ddiwydiannol. Mae gan Ani gyfoeth o brofiad yn y diwydiannau creadigol gan weithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol - yn fwyaf diweddar fel Rheolwr Diwylliant Creative Europe Desk UK, Cymru a chyn hynny yng Nghyngor Celfyddydau Cymru.

Cyhoeddiad

2023

Thesis

Ymchwil

Mae ymchwil cyfredol Ani yn rhan o brosiect pan-Ewropeaidd (ACORE) sy'n canolbwyntio ar rôl asiantau ac asiantaeth wrth ddatblygu llwybrau economaidd newydd o fewn rhanbarthau hen ddiwydiannol. Mae ymchwil Ani yn ystyried sut mae natur rhyweddol economeg wedi siapio trefi a dinasoedd ac yn edrych ar ddylanwad cynyddol dulliau eraill sy'n canolbwyntio ar lesiant fel gyrrwr a chanlyniad newid – yn fwy penodol yng nghyd-destun Cymru, y DU.

Gosodiad

The Rise of the Well-being Narrative in Old-Industrial Urban Regions of Wales