Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau rhan amser i oedolion

Cyrsiau rhan amser yn y dyniaethau, ieithoedd, busnes, cyfrifiadura, gwleidyddiaeth a'r gyfraith, gwyddoniaeth a'r amgylchedd, ac astudiaethau cymdeithasol.

Rydyn ni’n cynnig cyrsiau yn yr ystafell ddosbarth a chyrsiau ar-lein fel ei gilydd. Bydd dull cyflwyno pob cwrs wedi’i nodi yn nisgrifiad pob cwrs.

Rydyn ni bellach wedi symud i’n cartref newydd. Ein lleoliad newydd yw 50-51 Plas y Parc, Caerdydd CF10 3AT.

Dewch i gael eich ysbrydoli gan ein hamrywiaeth o gyrsiau rhan amser ar lefelau ac ar adegau sy'n eich siwtio chi.

Gallwch hefyd astudio i ennill cymwysterau ac rydym yn cynnig llwybrau at astudio gradd israddedig gyda'r brifysgol.

Yr haf hwn rydym yn cynnig cyrsiau iaith dwys mewn Tsieinëeg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a Wcreineg. Mae ystod o lefelau ar gael o ddechreuwyr i rai mwy datblygedig.

Newyddion diweddaraf

 50-51 Plas y Parc

Cartref newydd sbon ar gyfer Dysgu Gydol Oes

15 Ebrill 2024

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno ein cyrsiau gwanwyn a fydd yn cael eu cynnal yn ein hadeilad newydd

The students, staff and business school society students partaking in the Realising your Business Potential module.

Cwrs busnes byr yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i wella eu sgiliau busnes

21 Mawrth 2024

Cwrs busnes byr yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i wella eu sgiliau busnes

Scott Bees

Dad o Gaerdydd yn dychwelyd i'r ystafell ddosbarth

30 Hydref 2023

Cwblhaodd Scott Lwybr at radd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae bellach yn astudio BSc mewn Archaeoleg.

Rydym ni wedi datblygu nifer o lwybrau i'ch helpu chi i astudio am radd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darllenwch pam fod astudio cwrs byr gyda ni yn ddewis da.

Y cynlluniau sydd ar gael a'r meini prawf os ydych chi'n chwilio am gymorth ariannol.

Darllenwch sut i gofrestru ar eich cwrs.