Llwybr at radd mewn Seicoleg

Lluniwyd ein Llwybr rhan-amser at radd mewn Seicoleg ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwneud cais i astudio gradd.
Addysgir y modiwlau gyda’r nos ac ar y penwythnos. Byddwch chi’n astudio mewn cyd-destunau sy’n hamddenol ac yn gefnogol. Ar ôl astudio'r Llwybr byddwch chi’n gallu gwneud cais i astudio'r graddau israddedig canlynol:
- Seicoleg (C800)
- Seicoleg gyda Lleoliad Proffesiynol (C810)
Sut mae’n gweithio
Yn y llwybr mae 60 o gredydau. Mae hyn yn cynnwys tri modiwl craidd gorfodol, cyfanswm o 40 credyd, ynghyd â modiwl(au) opsiynol ychwanegol a fydd yn gyfwerth ag 20 credyd
Rhaid bod ymgeiswyr sydd am gofrestru ar y llwybr hwn â chymhwyster TGAU Mathemateg, graddau A-C/9-4.
Modiwlau’r llwybr
Modiwlau craidd
- Dulliau Ymchwil (10 credyd)
- Cyflwyniad Ysgafn i Ddadansoddi Data gan ddefnyddio R (10 credyd)
- Cyflwyniad i Fioleg Ddynol (20 credyd)
Modiwlau dewisol
- Seicoleg Iechyd (10 credyd)
- Seicoleg Gymdeithasol (10 credyd)
- Seicoleg Ddatblygiadol (10 credyd)
- Cymhwyso Damcaniaethau Troseddegol (10 credyd)
- Deall Diwylliant Gangiau (10 credyd)
Hyd
O dan amgylchiadau arferol, gallwch chi ddisgwyl cwblhau'r llwybr cyn pen blwyddyn, ond gallwch chi gymryd rhagor o amser os bydd angen.
Y Gost
Rhagor am gyllid ac arian.
Manylion cyswllt
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os hoffech chi ragor o wybodaeth am y llwybr hwn cysylltwch â’r canlynol:
Llwybrau at radd
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.