Llwybr at radd ym maes Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd

Mae ein Llwybr rhan-amser at radd ym maes Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd wedi’i lunio ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwneud cais i astudio gradd.
Caiff y modiwlau eu haddysgu gyda’r nos ac ar y penwythnos. Byddwch chi’n astudio mewn cyd-destunau sy’n hamddenol ac yn gefnogol. Ar ôl astudio'r Llwybr bydd modd i chi gyflwyno cais i astudio'r graddau israddedig canlynol:
- Daearyddiaeth Amgylcheddol (K32K)
- Geowyddorau Amgylcheddol (F648)
- Gwyddorau Cynaliadwyedd Amgylcheddol (F651)
- Daeareg Archwilio (F625)
- Daeareg (F603)
- Daearyddiaeth Forol (F845)
- Daearyddiaeth Ffisegol (F843)
Sut mae’n gweithio
Rhaid bod ymgeiswyr sydd am gofrestru ar y llwybr hwn yn meddu ar bum cymhwyster TGAU, graddau A-C/9-4. Rhaid i'r rhain gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith neu Gymraeg (os aethoch chi i ysgol cyfrwng Cymraeg) a Gwyddoniaeth Ddwbl neu dau bwnc gwyddoniaeth.
Mae 60 o gredydau yn rhan o’r Llwybr.
Modiwlau’r llwybr
- Hanfodion Cemeg (20 credyd)
- Hanfodion Daearyddiaeth Ffisegol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Ddadansoddi Gofodol a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (10 credyd)
- Cyflwyniad Ysgafn i Ddadansoddi Data gan ddefnyddio R (10 credyd)
Hyd
O dan amgylchiadau arferol, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn cwblhau'r llwybr cyn pen blwyddyn, ond mae modd cymryd rhagor o amser os bydd angen.
Y Gost
Rhagor am gyllid ac arian.
Manylion cyswllt
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu os hoffech chi ragor o wybodaeth am y llwybr hwn cysylltwch â:
Llwybrau at radd
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.