Llwybr i radd ym maes Cyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd Gymhwysol

Mae ein Llwybr rhan-amser at radd ym maes Cyfrifiadureg a Pheirianneg Meddalwedd Gymhwysol wedi’i lunio ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i fyd addysg er mwyn gwneud cais i astudio gradd.
Caiff y modiwlau eu haddysgu gyda’r nos ac ar y penwythnos. Byddwch chi’n astudio mewn cyd-destunau sy’n hamddenol ac yn gefnogol. Ar ôl astudio'r Llwybr byddwch chi’n gallu gwneud cais i astudio'r graddau israddedig canlynol:
- Cyfrifiadureg G400
- Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant G401
- Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg G4F4
- Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant GKF4
- Cyfrifiadureg gyda Diogelwch a Fforenseg gyda Blwyddyn o Astudio Dramor 125V
- Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol 4JVD
Sut mae’n gweithio
Rhaid bod ymgeiswyr sydd am gofrestru ar y llwybr hwn yn meddu ar bum cymhwyster TGAU, graddau A-C/9-4.
Mae'r llwybr yn cynnwys 60 o gredydau. Mae hyn yn cynnwys modiwlau craidd gorfodol a modiwl(au) dewisol ychwanegol.
Modiwlau’r llwybr
Modiwlau craidd
- Rhaglenni Python (20 credyd)
- Mathemateg Sylfaenol (20 credyd) (Gorfodol ar gyfer Cyfrifiadureg, gorfodol ar gyfer Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol os nad oes gennych chi TGAU Mathemateg.)
- Cyfathrebu Academaidd ar gyfer STEM (10 credyd) (Gorfodol os nad oes gennych chi TGAU Iaith Saesneg.)
Modiwlau dewisol
- Llythrennedd Digidol (10 credyd)
- Rhaglenni C++ (20 credyd)
- Deallusrwydd Artiffisial ymarferol: Deallusrwydd Artiffisial yn yr Oes Ddigidol (10 credyd)
Hyd
O dan amgylchiadau arferol, gallwch chi ddisgwyl cwblhau'r llwybr cyn pen blwyddyn, ond mae modd cymryd rhagor o amser os bydd angen.
Y Gost
Rhagor am gyllid ac arian.
Contact
If you have any queries or would like to find out more about this Pathway, please contact:
Llwybrau at radd
Rydym ni'n cynnig dysgu hyblyg, tiwtoriaid arbenigol, cyfleusterau helaeth a chyfleoedd i wneud cynnydd.