Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu Gwe gyda JavaScript ac AJAX

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae AJAX yn galluogi tudalennau gwe i fod yn hynod ddynamig.

Mae’r cwrs yn addysgu hanfodion JavaScript, DOM, JSON a XML er mwyn trin data ar dudalen we.

Gan ddefnyddio HTTP, gellir estyn data wedi'i hamgodio yn JSON neu XML o'r gweinydd gwe a’i osod ar y dudalen bresennol.

Defnyddir PHP fel cyfrwng ar gyfer sgriptio ar ochr y gweinydd yn y cwrs hwn, felly byddai rhywfaint o wybodaeth am PHP neu iaith sgriptio arall ar ochr y gweinydd yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol. Mae angen gwybodaeth dda am HTML a strwythur ei elfennau arnoch.

Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio’r broses ddylunio wrth greu safle we terfynol o syniad gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys cymysgedd o esbonio ac arddangos dan arweiniad tiwtor a sesiynau ymarferol. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad i bwnc/tasg y dydd ac yna arddangosiad, ac mae prif gyfran y sesiwn yn cynnwys gwaith ymarferol dan arweiniad y tiwtor, yna sesiwn holi ac ateb ar y diwedd i gloi'r sesiwn. Mae'r cwrs yn gyfanswm o 40 awr o hyd.

Dysgu ac addysgu

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, dylai’r myfyrwyr allu gwneud y canlynol:

  • Cynhyrchu tudalennau gwe rhyngweithiol gan ddefnyddio AJAX
  • Defnyddio fframweithiau AJAX
  • Ysgrifennu Javascript ar dudalen we
  • Deall egwyddorion a gweithrediad y DOM
  • Hygyrchedd a thrin tudalen we gan ddefnyddio’r DOM
  • Ymgorffori AJAX ar dudalen we

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Mae gan y cwrs hwn ddull asesu crynodol.  Bydd yr asesiad yn cynnwys prawf dosbarth ysgrifenedig a gwaith prosiect.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.