Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy Sgriptio Ar-lein

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae’r cwrs Gweithdy Sgriptio Ar-lein yn cynnig cefnogaeth addysgu bersonol o bell drwy ebost i awduron newydd a rhai profiadol sydd am ymgymryd â’u prosiect sgriptio eu hun.

Byddwch yn cael cyngor ac adborth un-i-un ar eich gwaith, ynghyd ag awgrymiadau ynglŷn â sut i ddiwygio eich sgript. Mae’r gefnogaeth wedi’i anelu’n bennaf at fyfyrwyr sy’n ysgrifennu ar gyfer teledu neu ffilm sydd eisoes wedi cwblhau sgript gyflawn. Mae’n rhaid cofrestru ymlaen llaw, a chynnwys manylion bywgraffiadol bras, ynghyd â chrynodeb byr o’ch prosiect.

Dysgu ac addysgu

Caiff cymorth ei roi drwy ebost dros gyfnod o tua deg wythnos. Bydd y tiwtor yn cynnig cyngor ac adborth i'r myfyriwr ar y gwaith (gydag awgrymiadau o ran adolygiadau ac ailysgrifennu) yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol am sgriptio. Bydd natur a gyd a lled y gefnogaeth wedi'i theilwra i anghenion unigol y myfyrwyr.

Disgwylir i chi ysgrifennu yn eich amser preifat eich hun, gydag arweiniad eich tiwtor, a dysgu am adolygu, wrth ymgyfarwyddo ar yr un pryd â chysyniadau sylfaenol sgriptio.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu hennill neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fydd unrhyw arholiadau ffurfiol. Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar y sgript y byddwch yn gweithio arni yn ystod y gweithdy, gan edrych am dystiolaeth o gynnydd yn eich sgiliau sgriptio.

Deunydd darllen awgrymedig

Cewch hyd i'r rhan fwyaf o adnoddau y gallai eich tiwtor eich cyfeirio atynt ar-lein.

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.