Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglenni Python

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Nod y modiwl hwn yw darparu cyflwyniad i raglennu yn iaith sgriptio Python.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes â rhywfaint o wybodaeth am raglennu cyfrifiadurol.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol. Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, bydd yna brawf dosbarth. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu.

Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Y maes llafur

  • Cyflwyniad i iaith Python.
  • Cynnal a chrynhoi rhaglenni.
  • Datganiadau sydd eu hangen er mwyn creu a phrosesu gwrthrychau mewn Python.
  • Cyflwyniad i’r mathau o wrthrychau cynwysedig megis rhifau, rhestrau a geiriaduron.
  • Trefnu côd Python yn fodiwlau.
  • Cyflwyniad i ddosbarthiadau Python ac archwilio teclyn Rhaglennu sy’n Canolbwyntio ar y Gwrthrych (OOP) Python.
  • Trin eithriadau.
  • Teclynnau rhagosodedig.
  • Fframweithiau a Rhaglenni.
  • Llyfrgelloedd arbenigol.

Deunydd darllen awgrymedig

Lutz, M. & Ascher, D., Learning Python. O'Reilly & Associate

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.