Ewch i’r prif gynnwys

PHP2 – Defnyddio mySQL gyda PHP ar gyfer y We

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â hanfodion dylunio ac adeiladu cronfa ddata berthynol ar gyfer y we drwy ddefnyddio MySQL, a’r rhyngwyneb rhwng y gweinydd mySQL a’r injan sgriptio PHP.

Byddwch yn dysgu sut i ddylunio ac adeiladu tablau cronfa ddata a’u defnyddio i gynhyrchu rhaglenni gwefan deinamig. Mae cystrawen sylfaenol SQL, y mae modd ei ddefnyddio gyda MySQL, yn cael ei addysgu ar y cwrs.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i'r rheini sydd eisoes â rhywfaint o wybodaeth am iaith raglennu PHP. Mae'r cwrs hwn yn tybio eich bod yn gwybod am y pynciau a drafodir yn y modiwl PHP1 Sgriptio ar gyfer y We.

Dysgu ac addysgu

Mae'r modiwl hwn yn cynnwys cymysgedd o sesiynau labordy a darlithoedd traddodiadol.  Mae pob cyfarfod yn dechrau gyda darlith ac yn gorffen gyda sesiwn yn y labordy.

Mae maes llafur y cwrs yn cynnwys:

  • strwythur mySQL a’i PHP API a'r berthynas ag injan sgriptio PHP a’r gweinydd gwe
  • cyflwyniad i'r cronfeydd data perthynol a normaleiddio a dylunio cronfa ddata sylfaenol
  • y rhyngwyneb PHP/mySQL
  • adeiladwaith a chystrawen sylfaenol SQL
  • nodweddion uwch SQL megis ymuno tablau
  • creu a rheoli cronfa ddata mySQL.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi’u caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint ohoni fod ar ffurf y gallwn ni ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cyflwyno aseiniadau i diwtor y cwrs.  Ar ddiwedd y cwrs, bydd prawf dosbarth.

Yr elfen bwysicaf o’r asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau wedi’u cynllunio i gynyddu eich hyder, ac rydym yn ymdrechu’n galed iawn i ddyfeisio ffyrdd o’ch asesu, sy’n ddifyr ac yn addas i oedolion â bywydau prysur.

Deunydd darllen awgrymedig

  • Du Bois, Paul, MySQL, New Riders ISBN: 0735709211, 1999

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.