Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd, Cariad a Marwolaeth yn Lloegr Fodern Gynnar

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Roedd bywyd yn Lloegr fodern gynnar yn dilyn yr un patrwm â bywyd yn yr unfed ganrif ar hugain i raddau helaeth: roedd pobl yn cael eu geni a’u magu, roedd llawer yn cael plant a phriodi, roedd y rhan fwyaf yn gweithio ac roedd pob un wedi marw yn y pen draw.

Fodd bynnag, er bod hyn yn ymddangos yn gyfarwydd ar yr olwg gyntaf, o archwilio’n agosach, roedd y camau bywyd a’r defodau hyn yn aml yn cael eu profi mewn ffyrdd gwahanol i’n rhai ni.  Roedd agweddau tuag at briodas a rhywioldeb, er enghraifft, yn wahanol iawn yn y cyfnod modern cynnar.

Gyda phwyslais penodol ar rywedd, mae'r cwrs hwn yn archwilio cylch bywyd yn Lloegr fodern gynnar o enedigaeth i farwolaeth trwy ystyried pynciau gan gynnwys plentyndod, priodas, gwaith a henaint.

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hanes a’r brwdfrydedd i ddatblygu’r diddordeb hwnnw ymhellach. Mae'n gweithredu fel rhan o'r llwybr Archwilio’r Gorffennol, a bydd yn eich arfogi â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn eich helpu i astudio cyrsiau eraill ar y llwybr.

Dysgu ac addysgu

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys chwe uned wedi'u rhannu'n themâu. Mae pob uned yn cynnwys sesiynau wyneb yn wyneb sy'n dair awr o hyd.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys darlithoedd, trafodaethau dosbarth a gwaith grŵp, gweithgareddau dadansoddi ffynonellau ac ymarferion i ddatblygu eich sgiliau academaidd.

Bydd cyfle hefyd i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, wedi'i hwyluso gan amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog.

Gwaith cwrs ac asesu

Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau dau ddarn o waith a asesir:

  • adolygiad o erthygl neu dadansoddiad ffynhonnell 500 gair
  • traethawd 1000 gair.

Rhoddir cyngor a chymorth ar gyfer y ddau aseiniad, a byddwch yn derbyn adborth manwl mewn perthynas â chryfderau a meysydd i’w gwella ar gyfer y ddau ddarn o waith.

Deunydd darllen awgrymedig

    • David Cressy, Birth, marriage, and death: ritual, religion, and the life-cycle in Tudor and Stuart England (Rhydychen, 1997).
    • Anthony Fletcher, Gender, Sex and Subordination in England, 1500-1800 (New Haven a Llundain, 1995).
    • Elizabeth Foyster, Manhood in Early Modern England: Honour, Sex and Marriage (Llundain, 1999).
    • Merry Wiesner, Women and Gender in Early Modern Europe (ail argraffiad) (Caergrawnt, 2000).
    • Keith Wrightson, English Society, 1580-1680 (Llundain, 2003)

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.