Ewch i’r prif gynnwys

Gwella eich Japaneeg II

Nid oes modd cadw lle ar y cwrs hwn ar hyn o bryd

Nid oes dyddiadau ar gael ar gyfer y cwrs hwn ar hyn o bryd. Byddwch y cyntaf i gael gwybod pan gyhoeddir dyddiadau newydd trwy ymuno â’r rhestr bostio..

Bydd y cwrs hwn, sy’n dilyn ymlaen o Gwella eich Japaneeg I yn eich cyflwyno i ystod ehangach ond yn dal i fod yn gyfyngedig, o sgiliau llafar, clywedol ac ysgrifenedig, sy’n ddigonol ar gyfer anghenion ymarferol mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Dyma’r pynciau fydd o dan sylw:

  • disgrifio beth mae pobl yn ei wneud
  • disgrifio golwg a sgiliau rhywun
  • mynegi hoff bethau a chas bethau
  • mynegi cyflyrau corfforol eich hun
  • mynegi’r hyn sydd ei eisiau arnoch.

Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys y prif bwyntiau gramadegol y bydd arnoch eu hangen ar y lefel hon, gan gynnwys y canlynol:

  • adolygu defnydd o ansoddeiriau
  • adolygu defnydd o'r ferf ffurf te-
  • presennol cynyddol (berfau ar ffurf ‘te’)
    berfau ar ffurf ‘tai’.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n meddu ar rywfaint o wybodaeth sylfaenol o Japaneeg er enghraifft wedi cwblhau cyrsiau Dechreuwyr I, Dechreuwyr II a Gwella I neu gymwysterau eraill cyfatebol. Disgwylir i fyfyrwyr ddeall berfau Japaneeg syml (ffurf masu-, ffurf te- a ffurf nai-) ac ansoddeiriau.

Dylai myfyrwyr allu darllen ac ysgrifennu llawysgrifen Japaneeg, Hiragana, Katakana a rhai nodau Tsieineaidd-Kanji sylfaenol.

Ddim yn siŵr pa lefel sy’n addas i chi? Dewch o hyd i'ch lefel.

Dysgu ac addysgu

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gymryd rhan, ac anogir y myfyrwyr i wneud hynny trwy amrywiaeth o weithgareddau anfygythiol a gynlluniwyd i ysgogi cyfathrebu.

Gwaith cwrs ac asesu

I ddyfarnu credydau, bydd angen i ni gael tystiolaeth o’r wybodaeth a’r sgiliau yr ydych wedi eu caffael neu eu gwella. Dylai rhywfaint o’r dystiolaeth fod ar ffurf y gallwn ei rhoi gerbron arholwyr allanol, fel y gallwn fod yn gwbl sicr bod safonau yn cael eu cyflawni ym mhob cwrs a phwnc.

Ni fyddwch yn cael arholiadau ffurfiol, ond efallai y byddwch yn cael profion darllen a gwrando yn y dosbarth. Efallai y gofynnir i chi ysgrifennu testunau byr fel gwaith cartref.

Mae ein hasesiadau yn hyblyg er mwyn gweddu i’r cwrs a’r myfyriwr. Elfen bwysicaf y broses asesu yw y dylai gryfhau’r dysgu. Mae ein dulliau ni wedi’u llunio i gynyddu eich hyder, a byddwn ni’n gwneud pob ymdrech i ddyfeisio ffyrdd o asesu sy’n llawn mwynhad ac yn gweddu i fywydau prysur oedolion.

Deunydd darllen awgrymedig

Dyma werslyfrau’r cwrs:

Japanese for Busy People I (Kana version), 3ydd Argraffiad Diwygiedig, AJALT, 2006
Nihongo Challenge N4 -5 Kanji: Preparation for JLPT with English Translation, Cyhoeddwr: ASK

Cyfleusterau llyfrgell a chyfrifiadura

Fel myfyriwr ar y cwrs hwn, mae gennych hawl i ymuno â llyfrgell a chyfleusterau cyfrifiadurol y Brifysgol a’u defnyddio. Rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r cyfleusterau hyn.

Hygyrchedd

Ein nod yw sicrhau mynediad i bawb. Rydym yn anelu at roi cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogol i unrhyw fyfyriwr sydd â chyflwr meddygol hir dymor, anabledd neu anhawster dysgu penodol. Gallwn gynnig cyngor un i un am anabledd a threfnu ymweliadau cyn cofrestru, cysylltu gyda thiwtoriaid a darlithwyr, trefnu deunydd mewn fformatau eraill, rheoli trefniadau cyrsiau hygyrch a threfniadau asesiadau, benthyg offer a sgrinio ar gyfer dyslecsia.